Am y tro cyntaf ers dros 50 o flynyddoedd, mae Menter Môn wedi sicrhau bod tir comin Llaniestyn yn cael ei bori. Mae pori er lles cadwraeth yn ffordd o annog natur, gan gynnig nifer o fuddion i fywyd gwyllt a phobl, yn y presennol ac yn y dyfodol.

Gall anifeiliaid helpu i reoli cynefinoedd, eu hadfer a’u cadw mewn cyflwr da trwy bori’r llystyfiant, cael gwared ar adfywiad coed diangen a rhywogaethau goresgynnol a chadw’r coetir yn agored. Gall ôl troed eu carnau greu amgylcheddau arbenigol ar gyfer infertebratau ac i blanhigion sefydlu.

Cafodd comin Llaniestyn ei bori ddiwethaf dros 50 mlynedd yn ôl ac mae cynllun Cwlwm Seiriol, ar y cyd gyda PONT (partner i’r prosiect) a Cyfoeth Naturiol Cymru wedi bod yn gweithio ar gynllun er mwyn ailsefydlu’r gallu i bori ar y safle. Y nod yw adfer cynefin y rhostir, lleihau’r adfywiad coed a rhedyn ar y rhos ac annog yr amrywiaeth eang o blanhigion blodeuol sy’n tyfu ar y safle i ledaenu a ffynnu.

Mae’r system yn gweithio trwy ddefnyddio technoleg lloeren a GPS. Mae’r ffin yn cael ei chreu trwy ddefnyddio app, boed hynny ar ffôn symudol neu gyfrifiadur. Mae’r app yn cyfathrebu gyda’r coleri mae’r gwartheg yn eu gwisgo. Caiff y gwartheg eu hyfforddi trwy ddefnyddio ffens drydan gweledol yn ogystal â’r coleri ar y dechrau er mwyn sicrhau bod y gwartheg yn gwybod pryd i droi oddi wrth y ffin wrth glywed y goler yn canu.

Eleni, o ganlyniad i gais gan y Cyngor Cymuned, mae PONT wedi trefnu bod yna ffens drydan dros dro yn cael ei gosod o amgylch tir comin Llaniestyn fel cam diogelwch er mwyn sicrhau bod y gwartheg yn aros ar y rhostir. Mae’r ffens rithiol wedi ei gosod o fewn y ffens drydan allanol, ac mae hi wedi bod yn llwyddiannus er mwyn cadw’r gwartheg o fewn yr ardal gywir. Yn y dyfodol ni fydd angen defnyddio ffens weladwy ac mi fydd y gwartheg yn gallu pori rhannau eraill o’r tir comin gan ddefnyddio’r system ‘No-Fence’.

Mae’r ffermwyr wedi eu plesio yn arw gan y system, mae’n bosib iddyn nhw wirio’r gwartheg ar eu ffonau, derbyn adroddiadau gan yr app sy’n egluro hoff fannau pori’r gwartheg a pha mor aml mae cloch y goler yn canu. Bydd hyn yn ddefnyddiol iawn wrth asesu effaith y pori.

Mae Hilary, rheolwr PONT yn hapus iawn gyda datblygiad y peilot. “Mae’r gwartheg yn ymdopi yn dda iawn gyda’r ffens ac maen nhw hefyd wedi bod yn gwneud gwahaniaeth i’r cynefinoedd. Mae’n braf cael adborth gan y bobl leol sydd yn falch o’u gweld nhw yn ôl yn Llaniestyn ar ôl cyfnod mor hir.”

Cafodd yr ardal ei fonitro cyn i’r pori ddechrau ac mi fydd yn cael ei ail-fonitro wedi i’r pori ddod i ben er mwyn dadansoddi pa newidiadau sydd wedi digwydd. Blwyddyn nesaf mae yna bosibilrwydd bydd y pori, gyda hyd at 5 o anifeiliaid, yn digwydd ar ddechrau’r Gwanwyn ond fwy na thebyg bydd yn digwydd rhwng Gorffennaf a diwedd Medi a bydd yr effaith ar natur Llaniestyn yn parhau i gael ei asesu.

Byddwn yn cynnal digwyddiad yn fuan iawn er mwyn i’r bobl leol gael cyfle i gyfarfod y ffarmwr ac aelod o staff PONT er mwyn holi unrhyw gwestiynau neu roi eu barn ar y peilot yma.

 


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233