Mae pump o bwyntiau gwefru cyflym ar gyfer cerbydau trydan wedi cael eu gosod mewn lleoliadau cymunedol ar draws Ynys Môn, diolch i gynllun Menter Môn. Mewn partneriaeth gyda Medrwn Môn a Chyngor Ynys Môn mae’r fenter wedi gosod y pwyntiau gwefru mewn hybiau cymunedol fel rhan o gynllun Zap Môn.
Gyda gwaharddiad ar geir a faniau petrol a disel newydd yn dod i rym yn 2030, mae’r pwyntiau gwefru cyflym newydd am annog pobl i ystyried newid i gerbydau trydan yn gynt. Mae’r pwyntiau mewn lleoliadau cymunedol canolog ym Mryngwran, Llannerch-y-medd, Amlwch a Talwrn. Y gobaith yw y byddent hefyd yn annog pobl i dreulio amser yn y lleoliadau hyn gan gyfrannu at ffyniant cymunedol.
Dywedodd Sioned Morgan Thomas, Cyfarwyddwr Prosiectau gyda Menter Môn: “Wrth i geir trydanol ddod yn fwy hyfyw a fforddiadwy, rydym yn falch o fod wedi gallu gosod y pwyntiau yma ar draws yr ynys. Mae cerbydau trydan yn cael eu hystyried yn rhan bwysig o’r ateb i leihau allyriadau carbon. Roedden ni’n awyddus i osod seilwaith ar yr ynys i gefnogi’r newid o gerbydau petrol a disel i gerbydau trydan glanach.
“Mae llawer o brosiectau Menter Môn yn canolbwyntio ar ddatblygu a hyrwyddo ynni adnewyddadwy a glân. Mae’r prosiect diweddaraf yma yn gyfraniad gwych at hynny ac yn adlewyrchu ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol gwyrdd, cynaliadwy.”
Bydd mwy o bwyntiau gwefru yn cael eu hariannu yn y dyfodol ar draws Ynys Môn fel rhan o raglen ehangach y Cyngor a Medrwn Môn i hyrwyddo trafnidiaeth werdd a rhoi’r opsiwn a’r hyder i bobl i newid i gerbydau trydan.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Ynys Môn, Llinos Medi, sydd hefyd yn gofalu am y portffolio Datblygu Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth yr ynys: “Rydym yn falch o fod wedi gweithio gyda Menter Môn a phartneriaid eraill i osod y pwyntiau gwefru cyflym yma ym Môn. Yn aml iawn mae pobl yn poeni ac yn ansicr am sut i fynd ati i wefru cerbydau trydan oherwydd diffyg lleoliadau. Gyda’r pum lleoliad newydd yma, a mwy ar y ffordd yn y dyfodol y gobaith yw fod yr opsiwn yn dod yn fwy apelgar i bobl.”
Ychwanegodd Y Cynghorydd Nicola Roberts, deilydd portffolio Cynllunio a Newid Hinsawdd y Cyngor: “Bydd y pwyntiau gwefru cymunedol newydd yma yn ategu’r rhai sydd wedi agor yn ddiweddar gan y Cyngor Sir ym meysydd parcio Caergybi, Amlwch, Porthaethwy a Llangefni. Does dim amheuaeth y bydd cyflwyno seilwaith gwefru cynaliadwy yn gwneud cyfraniad mawr at ein hymdrechion i wella allyriadau carbon a gwneud cerbydau trydan yn opsiwn fforddiadwy a hygyrch i bobl.”
Mae’r prosiect wedi derbyn cyllid drwy Raglen Datblygu Wledig 2014-2020 -Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru, sy’n cael ei ariannu gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru. Mae hefyd yn cael ei ariannu’n rhannol gan Ymddiriedolaeth Elusennol Ynys Môn.