Mae Menter Môn wedi ymuno â darparwyr gofal iechyd a Linc Cymunedol Môn, i gynnig sesiynau rhagnodi gwyrdd i gefnogi iechyd a lles yn ardal Biwmares, Ynys Môn.

Gan weithio gyda meddygon teulu, a’r gwasanaeth rhagnodi cymdeithasol, mae’r cynllun yn cyfeirio cleifion at sesiynau gweithgaredd yng nghoedwig Aberlleiniog o fewn gwarchodfa Natur Llangoed. Mae’r fenter yn rhan o brosiect Cwlwm Seiriol sy’n annog pobl i ymgysylltu â’u hamgylchedd naturiol i wella iechyd meddwl a chorfforol. Mae’r rhai sy’n cymryd rhan yn gwneud gweithgaredd corfforol yn ogystal â dysgu sgiliau crefft coetir a chynnal tasgau cadwraeth.

Dywedodd Delyth Phillipps, swyddog prosiect gyda Menter Môn: “Rydyn ni’n ymwybodol o’r manteision iechyd o ganlyniad i ymarfer corff rheolaidd a’i fod yn gysylltiedig â chyfraddau is o iselder a gor-bryder. Rydym mewn ardal brydferth gyda llawer o wahanol gyfleoedd i wneud gweithgareddau awyr agored – felly mae’n gwneud synnwyr llwyr ein bod ni’n manteision ar hyn i helpu pobl.

“Mae’r rhaglen yn cynnwys Pum Ffordd at Les. Mae’r rhain yn gamau syml y gallwn ni i gyd eu gwneud i hybu ein lles – cadw’n heini, cysylltu â phobl eraill, cymryd sylw o’ch ardal a parhau i ddysgu a gwirfoddoli. Rydym yn deall nad yw pawb yn ddigon hyderus i fynd i’r gampfa i gadw yn heini, felly mae Rhagnodi Gwyrdd yn eu galluogi nhw i ddechrau gyda gweithgareddau arafach fel cerdded a thasgau cadwraeth. Mae’r rhan fwyaf o’n gwaith mewn grŵp felly mae mantais ychwanegol hefyd o annog rhyngweithio cymdeithasol.”

Mae’r canlyniadau a’r adborth gan y rhai sydd wedi cymryd rhan yn gadarnhaol –  gyda 36 o bobl wedi ymuno hyd yma a chwech wedi mynd ymlaen i wirfoddoli gyda’r prosiect. Mae un cyfranogwr yn siarad am ei phrofiadau hi: “Mae bod yn rhan o’r cynllun hwn wedi bod yn lot o hwyl, mae’r hyn y rydyn ni wedi bod yn ei wneud yn anhygoel. Dwi’n caru bod tu allan, mae fy mhryderon i gyd i weld yn diflannu a does neb yn poeni am y tywydd – da ni’n gwisgo’n gynnes ac yn mynd amdani.”

Ychwanegodd un arall: “Cefais fy nghyfeirio at y cynllun drwy’r gampfa a roeddwn yn hapus iawn i gofrestru. Rydyn ni’n gwneud gwahanol weithgareddau bob wythnos. Dwi’n teimlo’n llawer gwell yn feddyliol, mae’r poen yr oeddwn yn ei deimlo yn lawer gwell, dwi’n teimlo llai o bwysau a hyd yn oed yn bwyta’n iachach.”

Mae sicrhau diddordeb pobl i wneud y gorau o’u hamgylchedd lleol wedi bod yn ganolog i cynllun. Mae Delyth yn ychwanegu: “Ein nod ers y cychwyn yw cysylltu pobl yn ardal Ward Seiriol â’u hamgylchedd naturiol. Yn ogystal ag annog pobl i ofalu am fannau gwyrdd cymunedol trwy wirfoddoli, roedden ni hefyd yn awyddus drwy Rhagnodi Gwyrdd i hyrwyddo’r manteision llesiant sydd i’w cael wrth dreulio amser yn yr awyr agored. Mae’r cynllun yn ein galluogi ni i olrhain cynnydd, fel y gallwn fesur y budd i’r rhai sydd yn ymuno â’r sesiynau.”

Gall y rhai sydd am wybod mwy am y cynllun Rhagnodi Gwyrdd trwy brosiect Cwlwm Seiriol, gysylltu gyda Delyth Phillips ar 07815 709240 neu e-bostio delyth@mentermon.com


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233