Mae ynys Enlli, ynys sy’n gysylltiedig â chwedlau a seintiau, nawr wedi’i gwthio i’r 21ain ganrif gyda thechnoleg ddigidol ddiweddaraf.

Mae Cyngor Gwynedd a Menter Môn wedi cydweithio ar brosiect i gysylltu’r ynys anghysbell â’r tir mawr. Bydd hyn yn galluogi trigolion, gan gynnwys ffermwr lleol a’r wardeniaid i gael mynediad at fand eang cyflym, er eu bod bron i 2 filltir allan i’r môr.

Mae’r dechnoleg hefyd yn caniatáu defnyddio ‘Internet of Things, sy’n cynnwys synwyryddion i fonitro lefelau trydan a gynhyrchir gan baneli solar, yn ogystal â dŵr sy’n cael ei storio mewn tanciau. Bydd y data hwn yn rhoi mwy o reolaeth i drigolion dros yr adnoddau rydym yn eu cymryd yn ganiataol ar y tir mawr.

Daw ymwelwyr i Ynys Enlli drwy fusnes Colin Evans, sy’n dweud bod y cysylltiad wedi gwella swyddogaeth yn aruthrol.

‘O’r blaen, roedd yn rhaid i mi weithredu o’r tir mawr gan nad oedd signal ar Enlli. Nawr gallaf redeg fy musnes cychod o’r ynys’. Eglurodd hefyd fod cysylltiad band llydan yn gam hollbwysig i atgyfodi’r ynys, nid i’w foderneiddio, ond wrth adfer yr hen gymuned a fu’n byw yno ar un adeg.

Ymddiriedolaeth Ynys Enlli sy’n berchen ar yr ynys ac yn ei rheoli, drwy gyflogi dau warden. Mae cael mynediad i fand eang yn hynod werthfawr gan eu bod yn byw ar yr ynys am gyfnodau estynedig.

Eglurodd un o’r wardeniaid, Mari Huws, ‘Mae cael cysylltiad dibynadwy yn hanfodol i’r trigolion sydd yn byw ar yr ynys. Yn ogystal, drwy gyfyngu mynediad i’r trigolion yn unig, mae’n golygu ein bod yn helpu i warchod hud Enlli’.

Eglurodd hefyd sut mae synwyryddion yn cael eu defnyddio i helpu i gadw hanes yr ynys. Mae lleithder yn cael ei fonitro yn nhŷ ‘Carreg’, sy’n helpu i gadw murluniau sydd wedi’u creu gan yr artist Brenda Chamberlain, a fu’n byw ar yr ynys am 15 mlynedd.

Mae Menter Môn yn ddiolchgar i gael y cyfle i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd drwy’r rhaglen CDG, ac yn gobeithio cwblhau mwy o brosiectau fand eang yn y dyfodol.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233