RŴAN AR AGOR AR GYFER CEISIADAU
Rydym yn falch o lansio rownd gyntaf Cronfa Budd Cymunedol Porth Wen, sy’n cynnig £10,000 ar gyfer prosiectau cymunedol yn Amlwch a Cemaes.
Ynglŷn â’r prosiect
Mae EDF Renewables UK wedi penodi Menter Môn i reoli Cronfa Budd Cymunedol Fferm Solar Porth Wen. Mae’r bartneriaeth yn nodi carreg filltir gyffrous wrth sefydlu Cronfa Budd Cymunedol Fferm Solar Porth Wen. Mae EDF Renewables UK yn buddsoddi £20,000 y flwyddyn dros oes y fferm solar i’r gronfa a fydd ar gael ar gyfer cymunedau lleol Cemaes ac Amlwch yn ogystal â’r ddwy ysgol leol. Mae Menter Môn hefyd yn cyfrannu ein ffi am weinyddu’r gronfa.
Beth sydd ar gael?
- £8,000 ar gyfer prosiectau Cemaes
- £2,000 ar gyfer prosiectau Amlwch
- Uchafswm o £2,000 fesul cais
Grymuso Cymunedau Lleol
Mae’r gronfa yn cydnabod y bydd Cemaes ac Amlwch yn gartref i fferm solar Porth Wen am 30 mlynedd a’r nod felly yw cefnogi trigolion i ddatblygu mentrau sy’n canolbwyntio ar y gymuned, yn gwella mannau awyr agored, dathlu’r Gymraeg a’r dreftadaeth leol, ac yn diogelu bioamrywiaeth.
Bydd Menter Môn yn gweithio gydag unigolion, grwpiau, mentrau cymdeithasol a busnesau i sicrhau bod y gronfa’n cefnogi prosiectau sy’n cwrdd ag anghenion cymunedol. Mae’r gronfa wedi’i chynllunio i ddod â phobl at ei gilydd a chreu effaith barhaol -boed hynny drwy greu gerddi cymunedol, cynnal gweithgareddau chwaraeon, neu ddigwyddiadau lleol,
Buddsoddi mewn Addysg
Fel rhan o’r ymrwymiad, mae £10,000 eisoes wedi’i ddyrannu i ysgolion lleol yng Nghemaes ac Amlwch, gan gefnogi prosiectau addysgol a fydd o fudd i bobl ifanc yr ardal.
Sut i Ymgeisio
Darllenwch ganllawiau’r gronfa yma yn ofalus cyn cyflwyno eich cais. Yna gallwch wneud cais am arian, gan amlinellu eich prosiect, y budd cymunedol, y cyllid sydd ei angen a’r arian cyfatebol sydd ar gael.
Dyddiad Cau Cais: Dydd Gwener, 30ain o Fai 2025.
Os yn llwyddiannus, byddwn yn cysylltu gydag ymgeiswyr i drafod y camau nesaf.
Diolch i EDF Renewables am gefnogi cymunedau lleol.
Cwestiynau Cyffredin
2. Pwy all ymgeisio am arian?
Mae ymgeiswyr cymwys yn cynnwys:
- Grwpiau cymunedol
- Unigolion
- Cynghorau Tref
- Sefydliadau gwirfoddol
Rhaid i ymgeiswyr fod wedi’u lleoli yng Nghemaes neu Amlwch a rhaid bod ganddynt gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu yn enw’r sefydliad cyn gwneud cais.
3. Faint o arian y gallaf wneud cais amdano?
Gallwch wneud cais am grantiau rhwng £500 a £2,000.
4. A oes angen arian cyfatebol?
- Rhaid i’r rhan fwyaf o ymgeiswyr ddarparu o leiaf 20% o arian cyfatebol (e.e., os yw eich prosiect yn costio £2,000, gallwch wneud cais am £1,600 ac mae angen i chi ddod o hyd i’r £400 sy’n weddill yn rhywle arall).
- Nid yw rhoddion mewn nwyddau yn cyfrif fel arian cyfatebol.
- Os na allwch ddarparu cyllid cyfatebol o 20%, gallwch wneud cais o hyd ond rhaid i chi egluro pam yn eich cais.
5. Fedrai wneud cais am gyllid bob blwyddyn?
Na. Ni all ymgeiswyr llwyddiannus wneud cais mewn blynyddoedd olynol. Er enghraifft, os ydych yn derbyn grant yn 2025, ni allwch wneud cais eto tan 2027.
6. Pa fath o brosiectau sy’n gymwys i dderbyn cyllid?
Mae’n rhaid i brosiectau ddod o dan un o’r categorïau hyn:
- addysg a hyfforddiant
- bioamrywiaeth a chadwraeth cynefin
- cymunedau bywiog, iach a chynaliadwy
- hyrwyddo ysbryd a gweithgaredd cymunedol
- gwella mannau awyr agored
- cefnogi swyddi yn yr ardal
Rydym yn annog prosiectau sy’n dathlu’r Gymraeg a threftadaeth neu sy’n gwella bioamrywiaeth.
7. A oes unrhyw eithriadau?
Oes, nid oes modd defnyddio cyllid ar gyfer:
- sefydliadau masnachol
- clybiau chwaraeon preifat sy’n seiliedig ar aelodaeth gyda mynediad cyfyngedig
- prosiectau sydd o fudd i un unigolyn yn unig
- prosiectau sy’n hyrwyddo gwahaniaethu hiliol neu grefyddol, ymgyrchoedd gwleidyddol, neu gasineb
- prosiectau sydd eisoes wedi dechrau
- cyfrifoldebau statudol (e.e., priffyrdd cyhoeddus, meysydd parcio, gwelliannau ysgolion sy'n dod o dan yr awdurdod addysg lleol)
- prosiectau yn erbyn ynni adnewyddadwy
8. Sut mae ceisiadau’n cael eu hasesu?
Bydd y panel yn asesu ceisiadau yn seiliedig ar:
- Budd Cymunedol – Sut mae’r prosiect yn cael effaith gadarnhaol ar y gymuned
- Gwytnwch Cymunedol – A yw’n cefnogi syniadau newydd a manteision hirdymor?
- Yr Iaith Gymraeg – Ydi o’n hybu’r Gymraeg?
- Ymarferoldeb – Dichonoldeb, amserlenni a chynllunio ariannol
- Ystyriaethau Ychwanegol – Defnyddio contractwyr lleol, gwerth am arian, a nifer y buddiolwyr
9. Sut ydw i’n ymgeisio?
- Darllenwch y cyfarwyddiadau yn ofalus.
- Cwblhewch y ffurflen gais.
- Cyflwyno cyn y dyddiad cau: 30/05/2025.
10. Lle gallaf ddod o hyd i fwy o wybodaeth?
Mae manylion llawn, gan gynnwys amodau cymhwystra ac ariannu, ar gael yn y canllawiau cyllido.