Grymuso Gwynedd

Rhaglen sy'n creu cyfleoedd gwaith, meithrin uchelgais, balchder a sgiliau, dathlu hunaniaeth leol a datblygu gwytnwch cymunedol Gwynedd

Trosolwg

Rhaglen sy’n creu cyfleoedd gwaith, meithrin uchelgais, balchder a sgiliau, dathlu hunaniaeth leol a datblygu gwytnwch cymunedol y sir ydy Grymuso Gwynedd. Gwneir hyn trwy ddwy ffrwd gwaith- ‘Cronfa Grymuso Gwynedd’ ac ‘Arweinwyr y Dyfodol’.

 

Cronfa Grymuso Gwynedd

Rydym wedi helpu dros ddeugain o gymunedau i ateb her yn lleol a gwella elfen o’r gymdogaeth. 

Mae’r prosiectau sy’n derbyn cymorth o’r gronfa yn hynod amrywiol. Mae rhai’n mynd ati i ddathlu hanes mewn ffordd newydd, megis cynhyrchu sioe fyw i ddathlu canrif o Neuadd Goffa Cricieth, mapio Dyffryn Nantlle, neu gynnal sesiynau creadigol i greu siantis môr newydd yn Nefyn.  

Mae eraill yn defnyddio’r cyllid i helpu pobol mewn angen, o redeg gwasanaeth presgriptiwn cymdeithasol i ddatblygu mentoriaid ac anogwyr all helpu unigolion sy’n byw â dibyniaeth. 

Mae nifer o adeiladau’n manteisio ar y gronfa – ambell neuadd bentref yn cynnal astudiaeth i ddarganfod potensial datblygu’r adeilad i symud gyda’r oes, ac eraill yn defnyddio’r cyllid i ddatblygu siop neu dafarn gymunedol, neu adnewyddu capel neu hen ysgol i fod yn ganolbwynt o’r newydd i’r gymuned. 

Mae yma deimlad o rhannu ac arloesi i nifer o’r prosiectau. Darganfod ffordd o ddod yn fenter hunangynhaliol ydy nod Porthi Dre, sy’n defnyddio’r cyllid i wella cyfleusterau cegin. A pherchnogi canolfan ymwelwyr yw’r weledigaeth yng Nghoed-y-brenin. 

O lwyddo, bydd y prosiectau lleol-iawn yma’n gallu bod yn ysbrydoliaeth i weddill y sir a thu hwnt, wrth ddangos yr hyn sy’n bosib gydag awydd a pherchnogaeth leol ochr yn ochr â chefnogaeth broffesiynol. 

Gwyliwch rhai o astudiaethau achos y gronfa:

Arweinwyr y dyfodol – Cymunedoli Cyf

Mae’r rhaglen hefyd yn cefnogi Cymunedoli Cyf- rhwydwaith mentrau cymunedol Gwynedd. Rydym wedi’u cefnogi i gyflogi 5 arweinydd cymunedol a’u rôl yw defnyddio eu harbenigeddau a’u profiadau mewn meysydd fel yr amgylchedd, mentergarwch, technoleg, busnes, bwyd ac iaith i ymateb i heriau a chynnig datrysiadau i gymunedau ar draws Gwynedd. 

Nid yn unig y mae’r arweinwyr proffesiynol yma ar gael i gynorthwyo pobol yn y cymunedau gyda datblygu eu prosiectau a chynnig cyngor, ond mae cyfle i rannu’r dysgu a thrsoglwyddo’r sgiliau arwain a gweithredu’n lleol hefyd, trwy gyfres o sesiynau hyfforddiant Grymuso gyda’n Gilydd. 

 

Mae’r rhaglen hon gan Menter Môn wedi’i hariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA). 

Gwybodaeth

Astudiaethau

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233