
Erthyglau am Ynys Môn gan drigolion Ynys Môn.
Y bwriad yw cyfoethogi a phoblogeiddio cynnwys ar Wicipedia Cymru er mwyn codi statws yr iaith Gymraeg yn genedlaethol a rhyngwladol.
Mae’r prosiect yn edrych i roi ar drwydded agored luniau, gwybodaeth a hanes lleol, gwyddonol ac ieithyddol a fydd yn hybu trafod termau yn Gymraeg.
Darperir sesiynau i grwpiau penodol ynghyd â sesiynau agored gan hyfforddi ar sut i greu erthyglau, golygu erthyglau ac uchlwytho delweddau i gyfoethgi’r tudalennau.