Cymuned

Mae gweld cymunedau yn llwyddo wrth wraidd holl gynlluniau Menter Môn. Rydym yn helpu i greu cymunedau llewyrchus gyda’r Gymraeg yn ffynnu. Ein nod yw i gael amgylchedd iach, swyddi o safon uchel i bobl ifanc talentog, a chymunedau sy’n ymateb i heriau maen nhw’n eu hwynebu. Rydym yn cefnogi mentrau ar gyfer siapio dyfodol ein cymunedau.

Cymuned

Trosolwg

Mae prosiectau unigol Menter Môn o fewn ein cymunedau yn drawsnewidiol ac yn cael effaith bositif ar wahanol agweddau o fywyd lleol. Drwy ganolbwyntio ar wella’r defnydd o’r Gymraeg, cyfleoedd gwaith i bobl ifanc a mynd i’r afael â materion fel tlodi bwyd a materion amgylcheddol ein cynefin, mae pob prosiect yn gwneud gwahaniaeth ym mywydau ein trigolion lleol. Trwy’r ymdrechion hyn, mae Menter Môn wedi grymuso cymunedau i ddod at ei gilydd gan feithrin cryfder a chydweithio wrth iddynt wynebu heriau ac adeiladu dyfodol gwell, mwy llewyrchus i bawb.

 Taith Gerdded Cylchlythyr Ein Hanes Ni

Gwybodaeth

Meysydd Gwaith

Pobl Ifanc – Mae pobl ifanc yn bwysig i ddyfodol ein cymunedau ac am ugain mlynedd rydym wedi darparu cyfleoedd trwy ein prosiectau fel sefydlu Theatr Ieuenctid Môn, gweithdai celfyddydol yn arwain at Gwyl Cefni a gwaith ymgysylltu gyda’r prosiect Morlais. Trwy feithrin awyrgylch gefnogol a chynnig cyfleoedd ar gyfer twf personol a phroffesiynol, mae Menter Môn wedi rhoi hwb i bobl ifanc, gan roi iddynt yr arfau sydd eu hangen i ffynnu mewn byd sy’n esblygu’n barhaus. Gyda chynllun Llwyddo’n Lleol gan Llywodraeth Cymru mae Menter Môn yng nghyd â phartneriaid yn gwasanaethu o fewn pedair Sir Arfor i amlygu cyfleoedd gyrfaol cyffrous, ac yn ceisio darbwyllo’r genhedlaeth ifanc i aros, neu i ddychwelyd, i’w cymunedau.

Amgylchedd – Rydym yn byw mewn ardal unigryw sydd â chynefinoedd a rhywogaethau arbennig.  Mae Menter Môn yn ceisio gwarchod ein hamgylchedd naturiol er budd cenedlaethau i ddod.  Ymysg ein cynlluniau mae Afonydd Menai sydd yn ceisio gwarchod y llygoden ddŵr, mewn cydweithrediad a chymunedau.  Trwy gynlluniau fel Cwlwm Seiriol rydym yn gweithio gyda thrigolion Ynys Môn er mwyn cynnig cyfleoedd cadwraeth, ac addysgu pobl am eu cynefin. Rydym hefyd wedi adnabod y potensial o ddefnyddio asedau naturiol ein hamgylchedd i greu prosiectau ynni adnewyddadwy fel gyda Morlais a Hydrogen Caergybi.

Cymunedau – Mae cymunedau bywiog yn hanfodol i safon byw ei thrigolion.  Yn allweddol i hyn mae’r gallu a’r capasiti i gymunedau benderfynu a dylanwadu ar ddyfodol eu hunain. Gall hyn fod trwy berchnogi tafarn, trefnu gwyliau neu ddathlu hunaniaeth.  Trwy gynlluniau Balchder Bro (Ynys Môn) a Grymuso Gwynedd rydym yn gweithio gyda chymunedau yn Ynys Môn a Gwynedd ar ystod o gynlluniau sydd yn bwysig i’r bobl leol. Mae gan y cynllun Ein Hanes Ni ffocws penodol ar uchafu a chofnodi hanes a threftadaeth cymunedau ar draws Môn a Gwynedd. Un o brif nodau’r cynllun yw sbarduno’r berthynas rhwng cenedlaethau drwy ddod a phobl ifanc a phobl hyn at ei gilydd i werthfawrogi, dysgu ac addysgu am hanes eu milltir sgwâr. Mae yna blethu naturiol yn digwydd rhwng holl gynlluniau cymunedol gan roi gwell dealltwriaeth o anghenion, blaenoriaethau a dyheadau ein cymunedau.

Yr Iaith Gymraeg – Wrth wraidd ein holl brojectau mae’r nod o atgyfnerthu, gwarchod a dathlu’r iaith Gymraeg a threftadaeth ein cynefin. O’n gwaith gyda’r Fforwm Iaith, i gynnal Gŵyl Cefni a sefydlu Theatr Ieuenctid Môn, rydym wedi ymrwymo i gryfhau’r iaith ym Môn a thu hwnt gan gydweithio efo’n partneriaid i gynyddu’r nifer o siaradwyr Cymraeg a chynnig gofodau Cymraeg naturiol. Trwy ein gwaith Menter Iaith Môn, rydym wedi cydweithio ar brojectau i gyflwyno’r iaith yn ifanc gyda’r ap Ogi Ogi a Selog gan normaleiddio a hybu’r iaith o’r crud.

Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233