Economi
Dysgwch fwy am sut mae Menter Môn yn hyrwyddo mentergarwch trwy gynnig arweiniad, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth i ddarpar berchnogion busnes. Mae ein hymrwymiad i arloesi yn amlwg yn ein hymwneud â sectorau ffyniannus megis technoleg ddigidol, ynni adnewyddadwy, a bwyd ac amaethyddiaeth.
Trosolwg
Mae arloesedd yn ganolog i’r holl waith rydym ni’n ei wneud ym Menter Môn. Rydym yn cynnig cyngor, cefnogaeth ac ysbrydoliaeth i bobl sy’n cychwyn ar eu taith fusnes. Rydym yn gweithio’n agos gyda Busnes Cymru ac mae gennym ein Hwb Menter ein hunain i gefnogi entrepreneuriaeth a darparu’r sgiliau cywir er mwyn i fusnesau gyrraedd eu nod. Rydym yn weithgar mewn meysydd twf o fewn yr economi megis technoleg ddigidol, ynni adnewyddadwy, bwyd ac amaeth – ac yn ymgysylltu â rhwydweithiau rhanbarthol i ddatblygu a chryfhau ein cymunedau a sicrhau llwyddiant.
Gwybodaeth
Meysydd Gwaith
Cefnogi busnesau – Mae Menter Môn wedi cefnogi busnesau ers 20 mlynedd ac wedi meithrin perthynas agos gyda mentrau hen a newydd dros y cyfnod hwnnw. Rydym hefyd wedi medru manteisio ar weithgaredd mewn amryw feysydd er mwyn ychwanegu gwerth at gynlluniau cefnogaeth busnes e.e.. bwyd, amaeth, ynni adnewyddadwy, twristiaeth a’r iaith Gymraeg. Ar lefel rhanbarthol rydym yn darparu cefnogaeth trwy’r Hwb Menter, sydd â phwyslais ar gefnogi busnesau newydd trwy gyngor arbenigol a grantiau. Yn genedlaethol rydym yn un o gytundebwyr Busnes Cymru, sef prif gynllun cefnogaeth busnes Llywodraeth Cymru.
Technoleg ddigidol – Mae Menter Môn wedi arwain y ffordd drwy beilota ystod o dechnoleg ddigidol er mwyn helpu busnesau a chymunedau. Gall y dechnoleg yma ddarparu data defnyddiol, lleihau costau a gwella gwasanaethau. Cychwynnodd gwaith Trefi SMART Cymru yn Aberdaron er mwyn gwella cysylltedd a bellach mae’n gynllun trwy Gymru sy’n helpu trefi gwneud penderfyniadau a chryfhau’r stryd fawr. Rydym hefyd wedi peilota technoleg ‘rhyngrwyd y pethau’ o fewn amaeth, gofal cymdeithasol a thwristiaeth, ac wedi cydweithio gyda chymunedau er mwyn gosod gwella cysylltedd band eang.
Bwyd ac amaeth – Mae’r sector bwyd ac amaeth yn bwysig i economi’r rhanbarth ac mae Menter Môn wedi ychwanegu gwerth, datblygu cadwyni cyflenwi a chefnogi arloesedd. Mae’n bwysig fod gwerth yn cadw ei gadw o fewn yr economi, a thrwy gynlluniau fel Larder Cymru rydym yn cydweithio gyda chyrff cyhoeddus er mwyn sicrhau mae cynnyrch Cymreig sydd ar fwydlenni ysgolion ac ysbytai. Gyda bygythiadau newid hinsawdd a diogelwch bwyd, mae hefyd yn bwysig medru addasu. Mae Tech Tyfu yn ceisio defnyddio technoleg i gefnogi dulliau newydd o dyfu cnydau ac arddangos ffyrdd newydd o amaethu.