CROESO I CYLCHOL
Mae economi gylchol yn dod â ni’n nes at adref
Prosiect gan Menter Môn drwy’r awdurdodau
lleol, gyda chefnogaeth Cronfa Economi
Gylchol Llywodraeth Cymru.
Nod Cylchol yw hybu economi gylchol ym mhob rhan o Ynys Môn a Gwynedd, drwy gynnal digwyddiadau a gweithdai cymunedol cyffrous. Mae hynny’n cynnwys y rhai a gynhelir yn Gofodau Gwneud Ffiws a hefyd y prosiectau cymunedol eraill yn y rhanbarth sy’n hybu economi gylchol.
Mae 45% o allyriadau byd-eang yn dod o eitemau bob dydd
Mae ein galw am gynhyrchion newydd yn cael effaith fawr ar yr amgylchedd. Trwy sicrhau bod deunyddiau’n cael eu defnyddio’n hirach gallwn helpu i leihau allyriadau ac arbed arian, gan gefnogi economi gylchol. Rydym am ddatblygu economi gylchol fywiog ar gyfer Ynys Môn a Gwynedd drwy annog trwsio ac ail-weithgynhyrchu deunyddiau bob dydd ac eitemau i’r cartref, drwy greu diwylliant o gynaliadwyedd a dyfeisgarwch yn ein cymunedau.
Ein cenhadaeth
Ein cenhadaeth yw cefnogi pobl Ynys Môn a Gwynedd i ddeall beth yw economi gylchol, creu cyfleoedd i bobl a busnesau gymryd rhan, a lledaenu’r gair y gallwn ni wneud gwahaniaeth mawr gyda’n gilydd.
FFIWS
Rhwydwaith o ofodau gwneud yw Ffiws, sy’n agored i unrhyw un yn Ynys Môn a
Gwynedd. Mae’r mannau cymunedol hyn yno i sbarduno creadigrwydd ac annog pobl i wneud pethau gan ddefnyddio amrywiaeth o offer uwch-dechnoleg.
Mae gofodau gwneud Ffiws yn ffordd wych o ddysgu sgiliau newydd a bod yn rhan o’r economi gylchol a helpu i leihau gwastraff yma yng Nghymru.
Digwyddiadau Caffi Trwsio Cymru
Mae llawer o leoliadau Ffiws hefyd yn cefnogi prosiect Caffi Trwsio Cymru. Mae’r rhain yn ddigwyddiadau rheolaidd, a gynhelir gan wirfoddolwyr a all eich helpu i drwsio ac ailddefnyddio eitemau am ddim. Gall hyn gynnwys ddillad, dodrefn, eitemau trydanol a beiciau, i enwi ond ychydig.
Byddwch yn rhan o’r mudiad!
Mae Ffiws bob amser yn chwilio am Wneuthurwyr Preswyl a all helpu i gynnal gweithdai ac annog pobl i fod yn rhan o’r newid i ailddefnyddio ac ailgylchu. Felly, os oes gennych grefft neu dalent a allai helpu eraill, byddem wrth ein bodd pe baech yn dod yn rhan o brosiect Cylchol.
Nid oes rhaid i chi gymryd rhan rhwng 9 a 5. Os gallwch helpu am 2 ddiwrnod y mis, neu 5 diwrnod yr wythnos, hoffem glywed gennych. Os oes gennych ddiddordeb mewn cynnal gweithdy byddwch yn cael tâl am eich amser, hyd yn oed os nad ydych erioed wedi cynnal eich gweithdy eich hun o’r blaen. Mae cefnogaeth lawn ar gael i bawb sy’n cymryd rhan.
Cefnogi Cylchol
Rydym yn angerddol am greu mudiad i sicrhau economi gylchol gryfach yng Ngogledd Cymru, ond allwn ni ddim ei wneud ar ein pen ein hunain. Os ydych chi wedi ymweld â Gofod Gwneud, wedi cynnal gweithdy neu wedi defnyddio Caffi Trwsio, cofiwch ein tagio ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio
#CylcholCymru