Gyda gaeaf anodd ar y gorwel o ran biliau ynni a phryder am yr effaith ar iechyd, mae cynllun newydd yn galw ar leoliadau i gofrestru i gynnig lloches gynnes i bobl.
Nod ‘Croeso Cynnes’, sy’n gynllun ar y cyd rhwng Menter Môn, Medrwn Môn, Cyngor Sir Ynys Môn a Chyngor Gwynedd, yw amlygu llefydd i bobl fynd i gadw’n gynnes a chysgodi yn rhad ac am ddim. Mae’n ymgais gan y partneriaid i gynnig ymateb brys i’r argyfwng costau byw a’r cynnydd mewn pris ynni fydd yn gymaint o her i nifer fawr dros fisoedd y gaeaf.
Fel cam cyntaf mae’r cynllun yn galw ar grwpiau, busnesau a sefydliadau ar hyd a lled y ddwy sir i gofrestru os oes ganddynt adeilad neu ystafell wedi ei wresogi y maen nhw’n gallu ei gynnig i bobl ddod i gadw’n gynnes.
Mae Sioned Morgan Thomas, Cyfarwyddwr Cynlluniau Menter Môn yn egluro: “Ein bwriad ydi amlygu llefydd yn ein cymunedau sy’n ddiogel, yn gynnes ac yn groesawgar i bobol fydd yn ei chael hi’n anodd cynhesu eu cartrefi. Mae ein neges yn syml – os ydych chi’n sefydliad, yn ganolfan gymunedol neu yn fusnes, sy’n gallu cynnig gofod i roi ‘Croeso Cynnes’ i bobl fregus gadewch i ni wybod. Byddwn yn mynd ati wedyn i hyrwyddo’ch lleoliad ar ein map rhyngweithiol ac yn rhannu’r wybodaeth trwy ein partneriaid gyda’r rhai fydd methu fforddio cynhesu eu cartrefi.”
Dywedodd y Cynghorydd Nia Jeffreys, Dirprwy Arweinydd Cyngor Gwynedd: “Mae’n hanfodol ein bod ni’n cydweithio i ymateb i’r heriau mae ein trigolion yn eu hwynebu wrth i’r gaeaf agosáu. Dwi’n falch ein bod wedi gallu symud yn sydyn i gael hybiau mewn lle yn barod yn ein llyfrgelloedd a’n canolfannau Byw’n Iach. Ond rydw i’n galw ar sefydliadu a busnesau lleol eraill i ddod ymlaen hefyd os ydynt yn gallu. Mae’n anodd i bawb ond rydyn ni’n ymwybodol iawn y bydd nifer yn gorfod gwneud penderfyniadau amhosib ac yn gorfod dewis rhwng bwyd a gwres. Mae’n bwysig ein bod ni’n gallu adnabod llefydd fydd yn ddiogel a chynnes, sy’n gallu agor eu drysau, a bod trigolion ac asiantaethau yn gwybod lle i gael gwybodaeth am y mannau yma.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Alun Mummery, deilydd portffolio Tai yn Cyngor Sir Ynys Môn: “Wrth i gostau tanwydd barhau i gynyddu, rydyn ni’n falch o allu cymryd rhan yn Croeso Cynnes ac i roi mynediad am ddim i bobl i adeiladau wedi’u gwresogi. Bydd yr argyfwng presennol yn cael effaith niweidiol ar iechyd corfforol a meddyliol pobl hefyd, mae mor bwysig felly ein bod ni’n gweithredu. Mae hon yn broblem genedlaethol sy’n peri pryder i lawer – rydan ni mewn sefyllfa i wneud gwahaniaeth yn lleol trwy weithio gyda’n gilydd, ac mae’n hanfodol ein bod ni’n ymateb ac yn gwneud beth allwn ni.”
Mae’r cynllun wedi ei gyllido drwy Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014 – 2020 sy’n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, gyda chyfraniad gan Gronfa Elusennol Ynys Môn.
Mae partneriaid yn awyddus i apelio i grwpiau a busnesau i gofrestru i gymryd rhan yn y cynllun hwn. I unrhyw un sy’n gallu cynnig lleoliad ar gyfer ‘Croeso Cynnes’ mae modd cofrestru yma.
Mae map o leoliadau ‘Croeso Cynnes’ sydd eisoes wedi cofrestru ac gael i bobl leol yma. Bydd mwy o wybodaeth yn cael ei rannu ar gyfryngau cymdeithasol partneriaid dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.