Bydd Larder Cymru yn rhannu ei neges gyda chynulleidfa ehangach yr wythnos nesa yn Sioe Fwyd Ysgolion LACA yn Birmingham. Mae Larder Cymru am bwysleisio pwysigrwydd defnyddio cynnyrch Cymreig mewn prydau ysgol, nid yn unig er mwyn lleihau milltiroedd bwyd ac i hybu cynaliadwyedd ond hefyd er mwyn cefnogi’r sector bwyd a diod lleol.

Yn brosiect Cymru gyfan  Menter Môn, nod Larder Cymru yw datblygu cadwyni cyflenwi byrrach ac annog cyrff sector cyhoeddus i gynyddu eu defnydd o gynnyrch Cymreig. Eleni, bydd yn gweithio gyda dau gyflenwr o Gymru – sef Castell Howell a Gwasanaeth Bwyd Harlech – yn nigwyddiad LACA, yr unig arddangosfa yn y DU sy’n rhoi llwyfan i’r sector bwyd ysgol.

Dafydd Jones yw Rheolwr Prosiectau Bwyd yn Menter Môn. Meddai: “Rydym yn edrych ymlaen at gael stondinau yn LACA eto eleni er mwyn rhoi platfform i’r sector bwyd a diod Cymreig a hybu cynnyrch lleol yn ein prydau ysgol. Mi fyddwn yn annog rheolwr arlwyo a chaffael awdurdodau lleol i ddod i siarad efo ni yn Birmingham i ddysgu mwy am sut y gallwn eu cefnogi i brynu’n lleol.

“Rydym eisiau sicrhau bod manteision o gael cadwyni cyflenwi byrrach yn cael eu profi yma yng Nghymru. Mae ein ymchwil yn dangos yr effaith bositif y gall hyn ei gael ar yr economi leol drwy gefnogi cynhyrchwyr Cymreig, yn ogystal â lleihau allyriadau carbon.”

Bydd Gwasanaeth Bwyd Harlech yn ymuno â Larder Cymru eto eleni. David Roberts, yw’r Rheolwr Cyfrif Allweddol – Addysg, dywedodd: “Mae’n ddigwyddiad ardderchog ar gyfer y sector bwyd ysgol ac mae’n gyfle i ni ddal i fyny gyda’r datblygiadau diweddaraf yn y diwydiant. Rydan ni’n edrych ymlaen at siarad â chwsmeriaid eto eleni ar stondin Larder Cymru. Fel cyflenwyr bwyd a diod lleol, ein nod ydi rhoi mwy o fwyd a diod wedi ei gynhyrchu yng Nghrymu ar fwydlenni ysgol rydym ac rydym eisiau gwneud popeth y gallwn er mwyn cyfrannu tuag at gadwyni cyflenwi bwyd byrrach, mae’r digwyddiad yma’n rhan o hynny.

Mae digwyddiad LACA eleni yn y Birmingham Hilton Metropole o’r 5ed i’r 7fed o Orffennaf.

Mae Larder Cymru yn cael ei ariannu gan y Cynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio trwy WEFO a Llywodraeth Cymru. Mae Menter Môn, drwy’r cynllun hwn a phrosiectau arloesol eraill, yn ceisio cael effaith gadarnhaol ar gymunedau drwy greu a darparu cyfleoedd i fusnesau ac unigolion lleol.

 


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233