Daeth prosiect cyffroes i ben mis Medi yn Egin Cegin ym Motwnnog. Mae Staff Canolfan Fenter Congl Meinciau wedi bod yn cyd-weithio gydag aelodau o dîm Dieteteg Iechyd Cyhoeddus Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ers sawl mis bellach.
Mae cwrs Dewch i Goginio (sy’n gwrs 6 wythnos i ddysgu am faeth, iechyd a choginio prydau syml iach a fforddiadwy ar gyfer y teulu) wedi bod yn rhedeg yn Egin Cegin yn ddiweddar. Mae Pob wythnos yn cyflwyno pwnc newydd yn ymwneud a bwyd a maeth yn ogystal â sesiwn coginio ymarferol o baratoi pryd o fwyd i fynd adre ar ddiwedd y sesiwn. Mi oedd yn gyfle gwych i bobl leol gael blas o’r cyrsiau mae’r tîm dieteteg yn cynnig. Dyma lun o Harri Miller, Ymarferydd cynorthwyol dietegol Iechyd Cyhoeddus- tiwtor y cwrs gyda’r cyfranogwyr wrthi yn coginio prydau iach, blasus.
Mae’r tîm dietegol Iechyd Cyhoeddus yn hynod o ddiolchgar i staff y Canolfan am gael defnyddio egin cegin a chefnogi gyda’r trefnu a thalu am y cynhwysion. Mae adborth y cyfranogwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn ac mae pawb wedi mwynhau dysgu mewn awyrgylch braf. Mae cynlluniau ar y gweill i barhau i ddatblygu’r perthynas gwerthfawr yma trwy gynnig sesiynau ‘bwyta’n gall cynilo’n well’ i drigolion yn y flwyddyn newydd.
Mae gwybodaeth am waith y tîm dietegol Iechyd cyhoeddus lleol a’r cyrsiau sydd ar gael ar y link yma: Cyrsiau – Sgiliau Maeth am Oes®. Am fwy o wybodaeth am y cyrsiau sydd ar gael, e-bostiwch BCU.NuritionSkillsForLifeWest@wales.nhs.uk
Mae’r Egin Cegin yn gegin fasnachol sydd wedi ei leoli yng Nghanolfan Fenter Congl Meinciau, Botwnnog. Mae’r gegin ar gael i’w hurio i bobl sydd yn meddwl cychwyn busnes bwyd a diod newydd ac yn chwilio am le pwrpasol i wneud hynny, paratoi bwyd ar gyfer digwyddiadau, gwersi coginio a llawer mwy. Mae’r prosiect wedi ei gefnogi ac ariannu gan gynllun LEADER, ac yn cael ei rhedeg mewn partneriaeth gydag Arloesi Gwynedd Wledig, Menter Môn, Cyngor Gwynedd, Canolfan Fenter Congl Meinciau a Grŵp Cynefin. Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd. Am fwy o wybodaeth cysylltwch a Lucinda egincegin@gmail.com