Ar ôl cyfnod hir o golli allan ar berfformio, cymdeithasu a chael hwyl, mae Theatr Ieuenctid yn ôl gydag wynebau cyfarwydd yn tiwtora. Croeso mawr i Gethin Llŷr Jones a Mia Ffransis Roberts. Mae Gethin a Mia yn gyn-ddisgyblion o TIM Llangefni ac wedi dangos diddordeb i gario’r fflam ar gyfer tiwtoriaid y dyfodol.
Cynllun yw TIM sy’n darparu cyfleoedd celfyddydol blaengar ac arbrofol i blant a phobl ifanc Ynys Môn. Mae croeso cynnes i blant cynradd rhwng 7 ac 11, yn ogystal â chyfleoedd i bobl ifanc rhwng 12 ac 18.
Cynhelir 5 sesiwn TIM wythnosol mewn gwahanol ardaloedd ledled yr Ynys. Y bwriad yw meithrin a datblygu sgiliau perfformio llwyfan a ffilm, creu gwaith byrfyfyr, rhoi cynnig ar genres gwahanol a pherfformio yn gyhoeddus.
Dywedodd Mia: “Fel cyn aelod o TIM Llangefni, dwi wrth fy modd cael bod yn ôl yno rwan fel is-diwtor. Heb os nac oni bai, mae’r hwyl, y profiadau, a’r ffrindiau y gwnes i yno wedi rhoi’r hyder i mi wneud cymaint o bethau ac erbyn hyn dwi’n hyfforddi fel athrawes. Mae mor braf gweld plant o wahanol ysgolion yn gwneud ffrindiau, magu hyder ac yn cael hwyl yma.”
Ychwanegodd Gethin: “Mae cael bod yn is-diwtor Theatr Ieuenctid Môn yn brofiad grêt a dwi wrth fy modd yn mynychu gwahanol sesiynau mewn gwahanol ardaloedd a gweld y plant yn datblygu. Fel disgybl yn TIM Bach Llangefni, ges i’r cyfle i wneud ffrindiau, datblygu sgiliau a magu hyder wrth gymryd rhan mewn sioeau a pherfformio’n gyhoeddus. Mae’n beth braf iawn cael gweld plant ifanc Môn yn cael yr un profiadau a ges i a dwi’n gobeithio bydd y sgiliau yma yn eu helpu nhw wedyn i ddatblygu a derbyn profiadau eraill.”
Bydd sesiynau TIM yn ail-gychwyn ar ôl y Nadolig ar y 10fed o Ionawr. Pa ffordd well o ddechrau’r flwyddyn newydd? Cysylltwch gyda rich@mentermon.com os oes gennych chi ddiddordeb yn y sesiynau.