Mae Menter Iaith Môn wedi llwyddo i sicrhau dros £250,000 o’r Gronfa Adfywio Cymunedol gan Lywodraeth y DU er mwyn hyrwyddo a diogelu’r Gymraeg ar yr ynys. Mae’r Fenter yn rhan o rwydwaith o fentrau sy’n gweithio dros y Gymraeg mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad.

Mewn cais ar y cyd â Chyngor Sir Ynys Môn y nod fydd treialu ffyrdd newydd o hyrwyddo’r Gymraeg trwy gefnogi defnydd cymunedol a gwella sgiliau iaith. Mae cynlluniau eisoes ar y gweill i wneud yn fawr o’r hwb ariannol, gyda hyd at £140,000 eisoes wedi ei glustnodi i 40 grŵp cymunedol a gwirfoddol ar hyd a lled y sir.

Mae Elen Hughes, Prif Swyddog Menter Iaith Môn yn egluro: “Rydyn ni’n falch iawn o dderbyn y cyllid newydd yma – bydd yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i’n gwaith ni ar Ynys Môn ac mae’n golygu y gallwn gefnogi mwy o grwpiau a chymdeithasu sy’n greiddiol wrth sicrhau dyfodol y Gymraeg ar yr ynys.

“Fel nifer o ardaloedd ar draws Cymru, mae’r iaith ym Môn yn wynebu heriau newydd trwy’r amser. Ac er nad ydym wedi derbyn canlyniadau’r cyfrifiad diweddaraf eto rydym eisoes yn gwybod bod trosglwyddo’r iaith o un genhedlaeth i’r llall yn faes pryder. Gyda’r arian yma gallwn edrych ar ffyrdd newydd o hyrwyddo gweithgareddau cyfrwng y Gymraeg a chreu bwrlwm o gwmpas yr iaith a’n gwaith ni fel menter.”

Un o’r grwpiau lleol fydd yn elwa o’r arian yw Cylch Meithrin y Santes Fair yn Rhoscolyn. Mae cant y cant o blant y Cylch yn dod o aelwydydd ble mae Saesneg yn brif iaith ac yn ôl Mair Williams, trysorydd y Cylch bydd derbyn cefnogaeth yn sicrhau eu bod yn gallu ymestyn eu darpariaeth a chynnwys rheini mewn gweithgareddau. Meddai: “Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am yr arian yma. Y gobaith yw y bydd yn ein galluogi ni i ddenu mwy o deuluoedd di-gymraeg i gymryd rhan ac i gofrestru efo ni, fydd yn ei dro yn cryfhau’r Gymraeg yn yr ardal.”

Sefydliad arall sydd wedi derbyn cefnogaeth yw Tafarn yr Iorwerth Arms, Bryngwran. Dywedodd Simon Wareham, un o Gyfarwyddwyr y dafarn: “Diolch i’r arian o’r gronfa gallwn gynnal digwyddiadau a chyngherddau byw Cymraeg drwy gydol yr haf. Rydym wastad yn ceisio datblygu ein arlwy fel lleoliad er mwyn denu cwsmeriaid newydd ac i’n caniatáu ni i barhau yn ganolbwynt i’r gymuned yma yn Bryngwran ble mae’r Gymraeg mor bwysig.”

Yn ogystal â chefnogi grwpiau amrywiol bydd arian y Gronfa Adfywio Cymunedol yn cael ei fuddsoddi i greu adnoddau ar gyfer teuluoedd a phobl ifanc ac yn cynnig cymorth i fusnesau’r ynys gynyddu eu defnydd o’r iaith.

Mae Menter Iaith Môn yn rhan o deulu ehangach Menter Môn ac yn cydweithio gyda phartneriaid dan faner Fforwm Iaith Môn fydd yn rhan o’r gwaith o gyflawni amcanion dan y cynllun newydd hwn.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233