Sut bynnag y byddwch chi’n cymryd eich coffi, bydd Coffi Dre yn cynnig amrywiaeth o ‘blends’ newydd sbon i chi cyn bo hir!

Mae cwmni coffi sydd wedi’i leoli yng Nghaernarfon yn profi’n lwyddiant mawr ac yn arddangos y gorau sydd gan Gymru i’w gynnig, gan gyrraedd y rhestr fer ar gyfer “Gwasanaethau Defnyddwyr y Flwyddyn” yng Ngwobrau StartUp Wales ac yn fwyaf diweddar, ar y rhestr fer “Cynhyrchydd Diodydd Bach y Flwyddyn” yng Ngwobrau Bwyd a Diod Cymru.

Rydym yn falch iawn bod Menter Môn wedi chwarae rhan yn y daith hyd yn hyn.

Dechreuodd Menter Môn, fel rhan o raglen Llwyddo’n Lleol gefnogi Coffi Dre am y tro cyntaf yn 2022. Nod Llwyddo’n Lleol yw herio’r dybiaeth y dylech adael cefn gwlad Cymru i ddod yn llwyddiannus, gyda phwyslais ar fentergarwch lleol, cyflogadwyedd a datblygiad sgiliau proffesiynol yn ogystal â phrofi bod Ynys Môn a Gwynedd ill dau yn siroedd perffaith i gael cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith ar ôl Covid.

Derbyniodd Ceurwyn Humphreys, Rheolwr Gyfarwyddwr Coffi Dre, fentora a hyfforddiant wythnosol gan arbenigwyr o fewn y diwydiant busnes trwy raglen Miwtini Yr Hwb Fenter a Llwyddo’n Lleol. Yn ogystal, derbyniodd Coffi Dre gymorth ariannol i helpu symud y syniad busnes yn ei flaen, mynychu Cwrs Hylendid Bwyd Lefel 3 mewn Arlwyo yng Ngholeg Llandrillo Menai a ariannwyd gan Menter Môn, ac ennill £1000 ychwanegol drwy bleidlais gyhoeddus Llwyddo’n Lleol ‘Barn y Bobl’, lle pleidleisiodd y cyhoedd dros y busnes yr oeddent am ei weld yn datblygu ymhellach.

“Mae’r gefnogaeth mae Menter Môn wedi ei roi i Coffi Dre wedi bod yn anhygoel. Mae cefnogaeth Llwyddo’n Lleol wedi bod yn allweddol i gael Coffi Dre drwy’r flwyddyn gyntaf o fasnachu. Rhoddodd y cyfarfodydd/gweithdai wythnosol a fynychwyd gennym yn 2022 y wybodaeth a’r hyder i ni fwrw ymlaen â’r busnes ac wrth gwrs fe wnaeth yr agwedd ariannol ein helpu i brynu offer sy’n dal yn rhannau allweddol o’r busnes hyd heddiw.” Ceurwyn Humphreys, Coffi Dre

Roedd Ceurwyn a’i bartneriaid busnes yn awyddus i ddatblygu’r busnes ymhellach drwy rostio eu coffi arbenigol eu hunain. Byddai’r offer sydd ei angen ar gyfer hyn yn fuddsoddiad sylweddol, ac felly nid oeddent yn disgwyl gallu datblygu’r ochr hon i’r busnes am ychydig flynyddoedd eto.

Fodd bynnag, oherwydd eu llwyddiant diweddar, penderfynodd Menter Môn, trwy raglen LEADER Gwynedd (Arloesi Gwynedd Wledig) brynu rhostiwr coffi a fydd yn cael ei brydlesu i Coffi Dre am y ddwy flynedd nesaf. Yn dilyn y ddwy flynedd gyntaf, bydd yr offer wedyn yn cael ei brydlesu i gwmni lleol arall i gefnogi eu hymdrechion.

“Bydd prydlesu rhostiwr coffi i Coffi Dre yn eu galluogi i ddatblygu’r busnes yn fwy effeithlon ac ar gyflymder na fyddai wedi bod yn bosibl fel arall. Yn dilyn y brydles 2 flynedd, bydd yr offer yn symud ymlaen i gefnogi cwmni lleol arall, ac mae hwn yn gylch y gobeithiwn ei ailadrodd gyda llawer o fusnesau yn elwa o fuddsoddiad tebyg yn y dyfodol, trwy gyllid Economi Gylchol Llywodraeth Cymru.” Dafydd Gruffydd, Menter Môn
Nid yn unig y mae’r cynllun hwn yn cefnogi busnes lleol sy’n tyfu, ond mae’n cefnogi’r ethos lleol cynyddol Economi Gylchol, gan ddefnyddio ac ailddefnyddio offer, trosglwyddo sgiliau a chyfrannu at naratif gwyrdd ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru.

Bydd Coffi Dre yn lansio eu coffi newydd yn fuan iawn, ac maent yn gweithio gydag artistiaid a darlunwyr lleol i greu’r brandio ar gyfer y rheini. Cadwch lygad ar eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol am ragor o wybodaeth.
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a’r Gronfa Amaethyddol
Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233