Mae Menter Môn wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU yn ddiweddar bod Caergybi wedi cael ei ddynodi yn Borthladd Rhydd.

Mewn cais wedi ei arwain gan Gyngor Sir Ynys Môn, roedd cynllun ynni llanw Morlais a Hwb Hydrogen Caergybi, ill dau yn brosiectau Menter Môn, yn cael eu cydnabod fel elfennau allweddol o’r cais llwyddiannus.

Dafydd Gruffydd yw Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, meddai: “Mae hyn yn newyddion gwych i Ynys Môn ac rydym yn falch iawn o fod wedi chwarae ein rhan wrth sicrhau’r statws newydd. Mae gan ein prosiectau Morlais a’r Hwb Hydrogen y potensial i drawsnewid yr economi leol, gan greu swyddi newydd a chyfleoedd buddsoddi yn y rhanbarth yn ogystal â rhoi Ynys Môn ar y map o ran ynni adnewyddadwy. Gall y statws Porthladd Rhydd helpu i sicrhau bod y ddau ddatblygiad yn cyflawni eu potensial.”

Dywedodd John Idris Jones, cyfarwyddwr gyda Morlais a Menter Môn: “Rydym yn gobeithio y bydd statws newydd y porthladd yn sicrhau bod gwaith cynhyrchu sy’n gysylltiedig â Morlais yn gallu digwydd yn  ardal Caergybi ac yn rhoi sylfaen gadarn i’r gwaith sydd eisoes yn digwydd yma. Ein gobaith yw y bydd hyn yn annog cwmnïau a datblygwyr rydym yn gweithio gyda nhw i ymsefydlu yn lleol gan ddod â buddsoddiad newydd gyda nhw. Mae hefyd yn rhoi’r dref a’r ardal ar y map o ran cynhyrchu hydrogen, gan agor cyfleoedd newydd i arloesi i’r dyfodol.”

Ychwanegodd Dafydd Gruffydd: “Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda partneriaid ym mhob sector i sicrhau budd o statws Porthladd Rhydd, er mwyn rhoi hwb i arloesedd a thwf yn y rhanbarth. Gyda’n cyfuniad unigryw o adnoddau naturiol, gweithlu gyda’r sgiliau cywir, a lleoliad strategol, mae Ynys Môn mewn lle da i fod yn rhan blaenllaw o’r rhwydwaith Porthladdoedd Rhydd y DU, ac mae Menter Môn yn falch o fod yn rhan o’r daith gyffrous hon.”


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233