Mae menter newydd sbon wedi’i lansio yng Ngwynedd ac Ynys Môn, sydd am helpu  cymunedau i atgyweirio ac ailddefnyddio offer ac eitemau cyffredin er mwyn lleihau gwastraff.

Daw Cylchol dan faner Menter Môn, a chaiff ei ariannu trwy Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru. Nod y prosiect yw datblygu economi gylchol hyfyw trwy hyrwyddo atgyweirio a thrwsio deunyddiau a nwyddau, gan greu diwylliant o gynaliadwyedd a dyfeisgarwch o fewn cymunedau.

Rhan allweddol o’r prosiect yw bywiogi 14 gofod creu Ffiws sydd wedi’u lleoli ar draws gogledd-orllewin Cymru. Bydd gofod creu Menter Môn ym Mhorthmadog yn cael ei ail-lansio ar 24 Gorffennaf gyda diwrnod llawn o weithgareddau ac arddangosiadau. Gyda golwg newydd ar uwchgylchu a thrwsio, mae tîm Cylchol yn awyddus i annog cymaint o bobl â phosibl i alw heibio ar gyfer taith o amgylch Ffiws, i roi cynnig ar ddefnyddio ychydig o’r offer sydd ar gael yno ac i ddysgu sgiliau newydd trwy gymryd rhan mewn gweithdai gydag arbenigwyr atgyweirio.

Mae Elen Parry yn rheolwr prosiect yn Menter Môn. Mae’n egluro: “Mae Ffiws fel cysyniad wedi’i hen sefydlu mewn trefi ar draws Gwynedd ac Ynys Môn – felly, rydym yn falch iawn o allu rhoi bywyd newydd i’r gofodau hyn, a’u cynnwys nhw fel rhan o fenter Cylchol.

“Fel pob prosiect Menter Môn, ein nod yw gwneud yn fawr o’r adnoddau sydd ar gael yn lleol, er budd ein cymunedau. Mae hyn yn cynnwys y sgiliau sydd gan bobl a’r gwrthrychau neu’r offer sydd gan pawb o gwmpas y lle nad ydyn ni’n eu defnyddio mwyach. Trwy hynny hefyd, rydym am ledaenu’r neges ehangach o geisio annog pobl i feddwl dwywaith cyn cael gwared ar bethau. Yn ogystal ag arbed arian a lleihau gwastraff, rydym yn awyddus i ddatblygu sgiliau a allai hyd yn oed arwain at gyfleoedd busnes posibl yn yr hir dymor.

Mae cam nesaf y prosiect yn cynnwys ymgysylltu ag unigolion sy’n grefftwyr a busnesau atgyweirio lleol sydd â diddordeb ymuno â Cylchol. Trwy adeiladu rhwydwaith o arbenigwyr, nod y tîm yw creu rhaglen o weithdai rheolaidd a sesiynau hyfforddi ymarferol, gan rymuso’r cyfranogwyr i gyflawni eu prosiectau atgyweirio eu hunain.

Gall unrhyw un sydd â dioddordeb mewn cymryd rhan yn Cylchol neu sydd am fwy o wybodaeth gysylltu â Menter Môn ar 01248 858845 neu Cylchol@mentermon.com . Mae modd archebu lle yn nigwyddiad Porthmadog yma.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233