Bydd disgyblion cynradd Môn yn cael cymryd rhan yn eu cynhadledd hinsawdd eu hunain ar y 5ed o Dachwedd i gyd fynd â COP26 yn Glasgow.

 

Mewn digwyddiad sy’n cael ei drefnu gan Menter Môn, y nod yw codi ymwybyddiaeth ymysg y plant am newid hinsawdd a’r angen i weithredu.

 

Dyma’r tro cyntaf i COP Bach gael ei gynnal – yn ddigwyddiad hybrid gyda gweithgareddau yn lleol a dros gyswllt fideo ar-lein. Bydd yn gyfle i ddisgyblion blwyddyn 5 a 6 deimlo’n rhan o’r hyn fydd yn digwydd yn y gynhadledd ar newid hinsawdd yn yr Alban fis nesaf. Mae’r  digwyddiad ym Môn hefyd yn cyd-fynd ag ymgyrch ‘addewid i’n planed’ WWF.

 

Yn ystod COP Bach bydd disgyblion yn cael clywed gan arbenigwyr hinsawdd, trafod a rhannu syniadau am ôl troed carbon, a dysgu am y prosiectau gwyrdd a charbon isel sydd eisoes yn digwydd ym Môn. Bydd cyfle hefyd iddynt recordio eu haddewid eu hunain i’r blaned.

 

Mae Catrin Jones o Menter Môn yn un o drefnwyr COP Bach. Dywedodd: “Mae cymaint o drafod am COP26 yn Glasgow roedden ni yn awyddus i roi cyfle i blant lleol gael bod yn rhan o’r cyffro hwnnw ac i ddod â rhai o’r materion dan sylw i‘r ystafell ddosbarth. Gall pob un ohono’ ni wneud mwy i daclo newid hinsawdd – a dwi’n siŵr y byddwn ni yn dysgu llawer gan y bobl ifanc hefyd.

 

“Rydan ni yn falch iawn o rai o brosiectau Menter Môn sy’n barod yn torri tir newydd o ran taclo newid hinsawdd – gan gynnwys cynllun ynni llanw Morlais a Hwb Hydrogen Caergybi. Gobeithio bydd y prosiectau hyn yn ysbrydoli’r plant ac yn  ennyn eu diddordeb am beth sy’n digwydd ar eu carreg drws.”

 

Nel Richards yw un o siaradwyr gwadd y digwyddiad. Mae hi’n fyfyrwraig ym Mhrifysgol Caerdydd ac wedi’i dewis fel gohebydd ifanc y BBC ar gyfer y gynhadledd yn Yr Alban. Wrth son am COP Bach, dywedodd: “Mae tynnu sylw plant at sefyllfa’r hinsawdd mor bwysig. Dyma’r bobl fydd yn gorfod delio efo newidiadau i’r blaned mewn degawdau. A dyma’r bobl hefyd fydd yn gorfod creu newid. Bydd COP Bach yn codi ymwybyddiaeth am beth allwn i gyd wneud – gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf gobeithio i ymgyrchu, i godi eu llais ac i weithredu.”


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233