Mae pecynnau cyllid hyd at £10,000 ar gael trwy Gronfa Entrepreneuriaeth Canol Tref Llywodraeth Cymru ar gyfer entrepreneuriaid sy’n awyddus i agor busnes yn Wrecsam, Bae Colwyn, Bangor, neu Rhyl.

Mae’r rhaglen Miwtini Canol Tref – cywdweithrediad rhwng Hwb Menter @M-Sparc a Hwb Menter Wrecsam – am glywed gan unrhyw un gyda diddordeb mewn syniadau busnes. Gallai hyn arwain atyn nhw’n meddiannu un o’r unedau mewn ardaloedd manwerthu sy’n dioddef.

Bydd cyrsiau un diwrnod yn cael eu cynnal ar y dyddiadau canlynol gyda gwybodaeth allweddol ar themâu fel arweiniad ar y gronfa, arweiniad ar les, cyllid a gwasanaeth cwsmeriaid. Bydd cyrsiau hefyd yn cael eu cynnal ar Drefi SMART, ardaloedd trefol sy’n defnyddio gwahanol ddulliau a synwyryddion electronig i gasglu data. Mae’r data yma wedyn yn cael ei ddefnyddio i lunio’r broses o wneud penderfyniadau gan reoli gwasanaethau ac adnoddau yn fwy effeithlon.

 

Yn ôl adroddiad diweddar gan Gonsortiwm Manwerthu Cymru, mae bron i un o bob pump siop yng Nghymru yn wag. Cymru hefyd sydd â’r ail gyfradd uchaf o fannau gwag yn y DU, tu ôl i Ogledd Ddwyrain Lloegr (20.6%).

Nododd cydlynydd yr Hwb Menter, Sara Roberts: “Mae hwn yn gyfle gwych i unrhyw un sydd gan syniad busnes a sydd yn edrych am safle masnachol er mwyn cymryd y cam neaf gan geisio gwrthdroi hanes y stryd fawr.”

“Byddem yn argymell bod pobl yn manteisio ar y cyllid yma, yn enwedig unrhyw un sydd wedi dechrau busnes o adref yn ystod y cyfnod clo.”

“Rydym yn gobeithio dod a chwa o awyr iach ac ychwanegu bywyd i strydoedd mawr Wrecsam, Bangor, Bae Colwyn a Rhyl, am eu bod nhw fel nifer o drefi eraill wedi dioddef o ganlyniad i’r pandemig a’r cynnydd mewn siopa ar-lein.”

“Bydd y cynllun Miwtini yn cynnig cymorth a chefnogaeth ar ystod eang o bynciau er mwyn eich helpu i ddechrau. Pwrpas y cyrsiau un-dydd hyn fydd ymdrin â phynciau allweddol er mwyn gosod sylfeini cadarn ar gyfer llwyddiant.”

Ychwanegodd Sara: “Gall y pecynnau hyn sbarduno entrepreneuriaid i barhau gyda’u busnes yn yr hir dymor, felly plis cysylltwch gyda ni neu ymunwch efo un o’n digwyddiadau er mwyn dysgu mwy.”

Gyda chefnogaeth Cronfa Ddatblygu Rhanbarthol Ewrop, mae’r fenter yn rhan o raglen Trawsnewid Trefol Llywodraeth Cymru. Yn gynharach eleni mae’r rhaglen wedi rhyddhau pecyn cymorth ychwanegol gwerth £24 miliwn. Pwrpas y pecyn fydd cefnogi adfywiad y stryd fawr ac annog cwmnïau i adleoli i ardaloedd trefol.

Am fwy o wybodaeth, ewch i Miwtini — Hwb Menter, ffoniwch 01248 858070  neu ebostiwch post@hwbmenter.cymru. Mae’r Hwb Menter yn cael ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

 

 

 

 


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233