Mae aelodau Fforwm Iaith Ynys Môn wedi datgan eu diolch i’r cadeirydd a’r is-gadeirydd wrth iddynt roi’r gorau i’w rolau.

Mewn cyfarfod diweddar yn Neuadd y Dref, Llangefni, mynegodd Dr Haydn Edwards a Dr Ifor Gruffydd ill dau eu bod am ildio eu cyfrifoldebau yn dilyn bron i bum mlynedd o wasanaeth.

Yn ystod cyfnod Dr Haydn Edwards yn y gadair mae gwaith y Fforwm Iaith wedi esblygu a bellach yn cynnwys dros 25 o sefydliadau cyhoeddus a thrydydd sector blaenllaw sydd oll yn cyfrannu at ddatblygiad y Gymraeg ar Ynys Môn.

Cafodd y Fforwm Iaith ei sefydlu yn 2014 gan Gyngor Sir Ynys Môn, Menter Iaith Môn a phartneriaid allweddol eraill. Dan arweiniad Dr Edwards, mae ei bwyslais wedi bod ar annog cydweithio rhwng yr aelodau er lles yr iaith yn lleol.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi, “Rydym yn hynod ddiolchgar i Dr Haydn Edwards a Dr Ifor Gruffydd. Mae’r Fforwm Iaith wedi datblygu i fod yn awdurdod dylanwadol nid yn unig yn lleol, ond yn genedlaethol, ac yn esiampl i eraill o bwysigrwydd cydweithio i atgyfnerthu’r Gymraeg. Mae ei bresenoldeb at Ynys Môn yn gryfder parhaol i ni fel Cyngor. Dymunaf yn dda i’r ddau.”

Mae Dr Edwards yn un o garedigion y Gymraeg sydd wedi cyfrannu’n helaeth at fywyd cyhoeddus ym Môn a thu hwnt. Wedi cwblhau ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Salford, gweithiodd mewn prifysgolion ym Mhrydain a’r Unol Daleithiau, cyn dod yn Brif Weithredwr Coleg Menai, Llangefni. Yn gynharach eleni cafodd ei anrhydeddu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ei gyfraniad i addysg a hyfforddiant yng Nghymru.

Hefyd â chysylltiadau cryf â’r ynys, mae Dr Ifor Gruffydd wedi cyfrannu at ddatblygiad yr iaith trwy ei ymchwil i’r maes hyfforddiant a dysgu Cymraeg a’i waith gyda Chanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor. Ef yw cyfarwyddwr Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin a bydd yn parhau i gynrychioli’r sefydliad ar y Fforwm Iaith yn dilyn ei ymddiswyddiad fel is-gadeirydd.

Yn dilyn ymadawiad Dr Edwards, mae Fforwm Iaith Ynys Môn yn edrych i benodi cadeirydd annibynnol newydd.

Dywedodd Elen Hughes, Prif Swyddog Menter Iaith Môn, “Mae hwn yn gyfle arbennig i rywun sydd â chysylltiadau cryf â’r ardal, sy’n angerddol dros y Gymraeg ac yn ymroddedig i ddatblygiad yr iaith yng nghymunedau Ynys Môn i arwain gwaith y Fforwm Iaith. Anogaf unrhyw un sydd â diddordeb i gysylltu â ni am sgwrs.”


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233