Mae dros 80 o fusnesau Môn wedi derbyn cyfanswm o dros hanner miliwn o bunnoedd gan gronfa sefydlwyd i greu swyddi a chefnogi twf yr iaith yng nghadarnleoedd y Gymraeg.

Diolch i Gronfa Arfor, wedi ei weinyddu ar y cyd rhwng Menter Môn a Chyngor Sir Ynys Môn, mae cwmnïau ar hyd a lled yr ynys wedi cael cymorth er mwyn datblygu mentergarwch, yn ogystal â diogelu swyddi. Yn gronfa arbrofol, nod Arfor oedd annog defnydd o’r Gymraeg drwy hyrwyddo twf economaidd a chreu gwaith mewn ardaloedd ble mae’r Cymraeg ar ei chryfaf. Roedd dwy gronfa yn rhan o’r cynllun – un yn canolbwyntio ar ddatblygu entrepreneuriaeth ac arloesedd a’r llall ar wneud y Gymraeg yn fwy amlwg mewn busnesau.

Un o’r cwmnïau sydd wedi elwa drwy’r cynllun yw cwmni teledu Rondo. Mae’r arian wedi galluogi’r cwmni barhau i weithredu yn ddiogel yn ystod cyfyngiadau Covd19 ac wedi gwarchod swyddi yn gysylltiedig â’u cynyrchiadau ym Môn, gan gynnwys yr opera sebon boblogaidd Rownd a Rownd.

Dywedodd Bedwyr Rees, Uwch Gynhyrchydd gyda Rondo: “Mae’r arian yma wedi gwneud gwahaniaeth mawr i ni fel busnes. Mae cefnogaeth Arfor wedi ein galluogi i sicrhau’r isadeiledd i barhau i gynhyrchu Rownd a Rownd ar Ynys Môn drwy gydol y pandemig. Oherwydd hynny, rydym wedi gallu cynnal swyddi yn yr ardal ac edrychwn ymlaen rwan at ddatblygu ein presenoldeb ymhellach yma, gyda’r bwriad o gael effaith gadarnhaol ar gyfleon a chyflogaeth o fewn yr economi leol.”

Mae pob un o’r busnesau dderbyniodd gymorth Arfor trwy’r bartneriaeth rhwng y Cyngor Sir a Menter Môn wedi diogelu swyddi, ac mae dros 60 o’r cwmnïau wedi creu swyddi o’r newydd. Yn ogystal, mae nifer o’r busnesau wedi rhoi cymorth i staff gael cymhwyster yn y Gymraeg.
Y Cynghorydd Carwyn Elias Jones yw deilydd portffolio Datblygu Economaidd, Hamdden a Thwristiaeth yng Nghyngor Sir Ynys Môn. Meddai: “Mae Arfor wedi chwarae rôl bwysig wrth gynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn busnesau ac yn sgil hynny y gobaith yw creu cyfleodd i annog pobl ifanc i aros yma ac i’w denu yn ôl. Mae’r gwaith mae Rondo yn ei wneud heb os yn rhoi Ynys Môn ar y map ac yn enghraifft o fusnes sydd wedi defnyddio’r gronfa i arloesi ac i ddatblygu marchnadoedd newydd.”

Sioned Morgan Thomas yw Cyfarwyddwr Prosiectau gyda Menter Môn, dywedodd: “Mae’n wych clywed am brofiad cwmnïau fel Rondo sydd wedi cael budd o’r gronfa unigryw yma. Mae creu cyfleoedd yn lleol i bobl gyda phwyslais ar y Gymraeg yn greiddiol i’n gweledigaeth ni ym Menter Môn – felly roedden ni yn falch iawn o allu gweithredu’r cynllun hwn ar yr ynys.

“Mewn cyfnod sydd wedi bod yn heriol i gwmnïau ar draws pob sector, braf oedd cael cefnogi mewn ffordd fydd yn cael effaith gadarnhaol yn yr hir dymor.”

Cyhoeddwyd Arfor, yn raglen £2 filiwn gan Lywodraeth Cymru yn 2019. Y nod oedd treialu dulliau arloesol o hyrwyddo entrepreneuriaeth, twf busnes a’r Gymraeg yng Ngwynedd, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin ac Ynys Môn. Roedd yr arian ar gael yn y bedair ardal i hwyluso dulliau newydd o ddatblygu’r economi a thrwy hynny hyrwyddo defnydd yr iaith. Mae’r gronfa wreiddiol bellach wedi cau ond mae Arfor 2 yn cael ei ddatblygu gan y Llywodraeth ar hyn o bryd.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233