Ers dros 10 mlynedd bellach mae Menter Môn yn dathlu Nawdd Sant Cymru drwy drefnu gorymdeithiau yn nhrefi’r ynys. Boed yn wynt a glaw, neu’n haul braf; mae’r dathliadau’n fodd o ddod a phlant a phobl yr Ynys at ei gilydd i berchnogi a dathlu eu Cymreictod.
O Gaergybi i Amlwch, draw i Langefni ac yna i Fodedern a Phorthaethwy, mae’r gorymdeithiau a’r codi canu sy’n dilyn wedi dod yn un o uchafbwyntiau’r flwyddyn i ysgolion yr ynys a thrigolion y stryd fawr sy’n cefnogi.
Dywedodd Angharad Williams, un o’r athrawon sy’n trefnu’r gorymdeithiau ar y cyd gyda Menter Môn: “Dwi’n meddwl bod o’n ofnadwy o bwysig bod plant y dalgylch yn cael y cyfle i ddathlu eu Cymreictod a chael y cyfle i ddod ynghyd a chymdeithasu mewn digwyddiad fel hyn.”
Bydd gorymdaith Caergybi yn digwydd ar y 19eg o Chwefror gan gychwyn o Faes Parcio Ysgol Santes Fair am 10yb, cyn gorymdeithio trwy’r stryd fawr a draw i Ysgol Uwchradd Caergybi i fwynhau gig gan Y Newyddion yno.
Ar yr 21ain o Chwefror bydd staff y Fenter yn rhannu eu hamser rhwng Llangefni ac Amlwch wrth i ddwy orymdaith ddigwydd ar yr un pryd. Bydd gorymdaith Llangefni yn cychwyn o faes parcio Nant y Pandy ‘Station Yard’ am 10yb a gorymdaith Amlwch yn cychwyn o faes parcio Stryd Salem. Bydd y ddwy orymdaith yn teithio drwy’r trefi gan gyd-ddathlu gyda’r cyhoedd cyn teithio draw i’r ysgolion uwchradd i godi canu.
Yn dilyn hanner tymor yr ysgolion, byddwn yn dychwelyd i Fodedern ar y 4ydd o Fawrth am fwy o ddathliadau gyda’r orymdaith yn cychwyn o iard yr Ysgol Uwchradd am 10:15, teithio trwy’r pentref a dychwelyd yn ôl i’r Ysgol Uwchradd. Bydd ein dathliadau am 2025 yn gorffen ym Mhorthaethwy ar y 6ed o Fawrth gan gychwyn o Faes Parcio Waen am 10 cyn gorymdeithio tuag at Ysgol David Hughes.
Rydym yn edrych ymlaen at y cyfle unwaith eto eleni i sicrhau prysurdeb yn y stryd fawr a hyn hefyd yn arwain at fwy o bobl yn ymweld a’r stryd ac yn cefnogi’r economi yno. Byddem yn falch o weld perchnogion a staff busnesau’r stryd fawr yn ymuno yn y dathlu a gwell fyth os ydych chi wedi addurno’ch busnesau ar gyfer yr achlysur.
Ychwanegodd Catrin Lois Jones, Rheolwr Iaith a Chymuned Menter Môn: “Mae’r gorymdeithiau yma yn ffordd o ennyn balchder y cyhoedd yn eu Cymreictod a rhoi blas ar ddiwylliant a threftadaeth Cymru ac Ynys Môn i unrhyw un sydd yn newydd i’r ardal. Y gobaith ydi ein bod ni’n ysbrydoli’n plant a phobl ifanc o oedran cynnar i fod yn dathlu eu hunaniaeth Gymreig.”
Mae’r plant a’r bobl ifanc yn falch iawn o weld cefnogaeth y cyhoedd wrth lenwi’r stryd fawr ac mae creu bwrlwm cymunedol yn un o’r rhesymau ychwanegol dros drefnu’r gorymdeithiau. Bydd croeso cynnes yn disgwyl unrhyw un sydd am ymuno gyda ni yn y dathlu, gan ddod a’u lliw a’u sŵn gyda nhw i ddathlu Dewi Sant.