Mae llyfryn sy’n codi ymwybyddiaeth am yr iaith Gymraeg ac yn annog trigolion Ynys Môn i ddefnyddio ac i werthfawrogi gwerth yr iaith yn cael ei ddosbarthu i bob cyfeiriad ar yr ynys yr wythnos hon.

Mae’r llyfryn ‘Croeso i Gymru/ Croeso i Ynys Môn / Croeso i’r Gymraeg’ wedi cael ei greu a’i gyhoeddi gan Menter Iaith Môn mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ynys Môn drwy gefnogaeth rhaglen ARFOR a Chronfa Adfywio Cymunedol y DU. Y nod yw sicrhau fod gan unigolion, teuluoedd a busnesau di-Gymraeg sy’n symud i’r ynys ddealltwriaeth o’r Gymraeg, y manteision o ddysgu’r iaith, a’r rôl mae’r iaith yn chwarae ym mywyd dydd i ddydd trigolion yr ynys.

Meddai Elen Hughes, Prif Swyddog Menter Iaith Môn: “Dyma lyfryn deniadol, diddorol a chynhwysfawr, fydd yn help mawr i bobl sy’n symud i’r ardal i ymgartrefu a deall ein diwylliant. Y gobaith yw y byddan nhw’n cael eu hysbrydoli i ddysgu mwy am y diwylliant lleol ac i ddechrau dysgu’r iaith.

“Mae’r llyfryn yn llawn o wybodaeth defnyddiol, o hanes yr iaith i bwysigrwydd addysg Gymraeg a’r gefnogaeth sydd ar gael i fynd ati i ddysgu’r iaith. Yn ogystal â gwybodaeth yn benodol ar gyfer busnesau a gweithleoedd mae’n cynnwys manylion am amryw o fudiadau, apiau ac adnoddau ar-lein defnyddiol sydd ar gael yn y Gymraeg.

“Rydym yn awyddus iawn i glywed barn am y llyfryn, a mesur ei gyrhaeddiad. Felly, rydym wedi lansio cystadleuaeth i gyd-fynd â’r gwaith, sy’n rhoi’r cyfle i bobl i rannu adborth am y pecynnau i gael siawns o ennill hamper Bragdy Cybi a Dylan’s. Bydd manylion y gystadleuaeth yn cael eu rhannu ar ein gwefannau cymdeithasol, a bydd taflenni yn cael eu dosbarthu i ysgolion, sefydliadau ac mewn digwyddiadau dros yr haf.”

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, Llinos Medi Huws: “Diolch i staff y Fenter Iaith a’r Cyngor am eu gwaith trefnu ac i Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig am ei gyllido. Bydd y llyfryn yn ased defnyddiol i’r Cyngor ac i Menter Iaith Môn gyda’r gobaith y bydd yn rhoi hwb i warchod a defnyddio’r Gymraeg ar yr Ynys.”

Mae Menter Iaith Môn yn rhan o deulu ehangach Menter Môn ac yn cydweithio gyda phartneriaid dan faner Fforwm Iaith Môn i greu bwrlwm ac i hyrwyddo’r Gymraeg ar yr ynys.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233