Croeso i griw newydd Llwyddo’n Lleol 2050!  

Mae cynllun Llwyddo’n Lleol 2050, Menter Môn wedi croesawu criw newydd o entrepreneuriaid ar gyfer 2022. Trwy gefnogaeth Llwyddo’n Lleol a’r Hwb Menter mae 7 o entrepreneuriaid yn derbyn sesiynau mentora a hyfforddiant wythnosol gan arbenigwyr o fewn y byd busnes. Yn ogystal â hyn bydd yr aelodau yn derbyn cefnogaeth ariannol o hyd at £1000 i helpu symud eu syniad busnes yn ei flaen.

Nod pob un o’r syniadau busnes a gefnogir yn y cynllun hwn yw i ymateb i her gymunedol. Mae’r busnesau dan sylw yn gobeithio cynnig gwasanaethau neu ofodau y gall cymunedau elwa ohonynt a’u mwynhau.

Wrth i’r rhaglen fynd ei flaen dros yr wythnosau nesaf bydd y grŵp yn rhannu eu teithiau busnes, gan arddangos y cyfleoedd a’r posibiliadau sy’n bodoli yng Ngogledd Cymru. I ddilyn datblygiad y grŵp dros y 10 wythnos nesaf, dilynwch Llwyddo’n Lleol 2050 @LlwyddonLleol2050 (Facebook, Instagram, Twitter).

Pwy yw’r criw newydd?

Funmilayo Grace Oni, 45, Bangor

Wedi byw ym Mangor ers blwyddyn sylwodd Grace nad oedd yna unman yn lleol i bobl Affricanaidd gael gwneud eu gwalltiau, mendio eu dillad neu brynu deunyddiau Affricanaidd. Bydd ei busnes felly yn cynnig arddull Affricanaidd o deilwra a thrin gwallt.

Eleri Foxhall, 32, Penygroes

Gyda’r pandemig wedi effeithio ar iechyd meddwl llawer mae Eleri eisiau cynnig gwersi ioga a meddylgarwch i bobl leol, yn enwedig plant a phobl ifanc er mwyn helpu eu llesiant. @iogisbach

Alannah Griffiths, 29, Caergybi

Wedi lansio ei busnes crefftau Micarel flwyddyn yn ôl mae Alannah yn edrych i ddatblygu ei busnes ymhellach. Mae hi eisiau cynnig gweithdai i ysgolion a grwpiau ieuenctid i ddatblygu eu sgiliau celfyddydol. Bydd hi hefyd yn rhoddi canran o’i helw i elusen ieuenctid lleol er mwyn eu helpu i brynu adnoddau i’r plant. @micarel

Ffion Pritchard, 27, Bangor

Mae Ffion a’i phartner busnes Esme Livingston yn angerddol am roi llwyfan i waith celf gan ferched. Byddent yn cynnal gŵyl gelfyddydol i ddathlu gwaith creadigol merched lleol, o’r enw Gŵyl y Ferch. Wedi iddynt gynnal yr ŵyl yn y gorffennol am ddim a gweld ei llwyddiant maent nawr eisiau ei ddatblygu fel busnes.  @gwylyferch_festival

Ceurwyn Humphreys, 29, Caernarfon

Mae Ceurwyn yn edrych i ddatblygu ei fusnes Coffi Dre i fod yn siop goffi a hwb gymunedol wedi ei leoli yng Nghaernarfon. Bydd y busnes yn cynnig lle i unigolion gael mynd i gymdeithasu a chynnal gweithgareddau a digwyddiadau cymunedol. @coffidre

Melissa Evans, 30, Caernarfon

Mae Mel yn edrych i gychwyn ei busnes fel arbenigwr tynnu cwyr clust gan ddefnyddio dull microsugno. Gan nad ydi’r gwasanaeth hwn ar gael gan yr NHS bellach, mae hi’n teimlo y byddai’n buddio unigolion sydd yn dioddef o broblemau cwyr clust.

Luke Huntly, 19, Clynnog Fawr

Darparu gwasanaeth ffotograffiaeth a dylunio graffeg i fusnesau a fydd yn eu helpu nhw i edrych yn fwy proffesiynol ac i dyfu. @lukejoehuntly_photographer


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233