Ysgol Uwchradd Caergybi yw’r ysgol gyntaf yng ngogledd Cymru i fentro i’r byd o ffermio fertigol neu hydroponeg. Drwy gymorth cynllun technoleg-amaeth Menter Môn, Tech Tyfu, mae’r system dyfu arloesol yn rhoi profiadau dysgu newydd i ddisgyblion, gan edrych ar ffyrdd gwahanol o dyfu cynnyrch heb bridd.
Diolch i nawdd o Gronfa Ddatblygu Gynaliadwy AHNE, Cyngor Ynys Môn cafodd yr Uned ei darparu i’r ysgol gan Tech Tyfu. Cafodd cyfres o sesiynau eu cynnal gyda chriw o ddisgyblion blwyddyn 11, oedd yn gyfrifol wedyn am ofalu am y cnydau. Cynhyrchiwyd bagiau salad cymysg ar ddiwedd y sesiynau oedd yn cynnwys pys flodau a llysiau micro, cynnyrch a gafodd ei fwynhau gan yr athrawon a’r rhieni. Bwriad y cynllun yw dysgu nifer o sgiliau pwysig y gweithle i bobl ifanc – o fentergarwch i ddatrys problemau a gweithio fel tîm.
Nia Wyn Roberts yw Pennaeth Cynorthwyol Ysgol Uwchradd Caergybi, dywedodd: “Fel ysgol, rydym yn ffodus iawn o fod wedi derbyn fferm fertigol drwy gynllun Tech Tyfu. Roedd y cysyniad o gael ‘fferm’ mewn ysgol drefol yn hynod ddiddorol, a daethom i ddeall pwysigrwydd tyfu llysiau mewn dull cynaliadwy a chyfeillgar i’r amgylchedd.
“Edrychwn ymlaen at wneud defnydd llawn o’r uned ar draws pob grŵp oedran yn yr ysgol a bydd cyfle iddyn nhw ddefnyddio’r cynnyrch mewn gwersi arlwyo, fydd hefyd yn datblygu eu dealltwriaeth wyddonol o’r uned. Rydym yn hynod o ddiolchgar i’r tîm yn Menter Môn am roi’r cyfle yma i’r criw ifanc.”
Ychwanegodd Dr Luke Tyle, Rheolwr Technegol-Amaeth Menter Môn: “Mae cyd-weithio gyda’r ysgol i gynnal y sesiynau a gweld ymateb y myfyrwyr i’r dechnoleg wedi bod yn brofiad ffantastig. Roedd eu diddordeb yn y prosiect yn hyd yn oed gwell na’r disgwyl wrth iddynt gynnig syniadau am gynnyrch newydd a datblygu cnydau newydd ei hunain. Fe wnaeth un bachgen hyd yn oed ddod dros ei atgasedd oes o nionod gan fwynhau blas y cennin micro!
“Yn dilyn llwyddiant y cynllun yma, rydym wedi sicrhau cyllid pellach i barhau â’r gwaith mewn dwy ysgol arall yn Ynys Môn i ddatblygu ffermio fertigol fel rhan o’r cwricwlwm, gyda’r bwriad o ehangu’r prosiect ar draws gogledd Cymru.
“Fel rhan o’r prosiect rydym hefyd wedi cynhyrchu deunyddiau dysgu ar gyfer plant cyfnod allweddol 2 i adlewyrchu’r cwricwlwm newydd yng Nghymru. Mae’r adnodd yma yn cynnwys gweithgareddau a phecyn i gefnogi athrawon. Mae’r rhain ar gael am ddim o wefan Tech Tyfu.”
Lansiwyd prosiect Tech Tyfu fel cynllun peilot ym mis Mawrth 2022, i gefnogi ffermwyr a thyfwyr yng ngogledd orllewin Cymru i ddatblygu ffyrdd arloesol o dyfu cynnyrch. Y cynaf o’i fath yng ngogledd Cymru, mae’r cynllun wedi datblygu ac wedi sicrhau cyllideb i greu Hwb Arloesi ar gyfer Tech Tyfu ym mharc gwyddoniaeth M-SParc, Gaerwen, Ynys Môn.
Mae Tech Tyfu yn cael ei ariannu drwy Raglen Cymunedau Gwledig – Rhaglen Datblygu Wledig Llywodraeth Cymru 2012-2020, o Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.