I nodi’r flwyddyn newydd bydd fforwm newydd sbon yn lansio yng Ngwynedd a Môn. Bydd Codi Cymru yn rhedeg fforwm arbennig i ferched rhwng 13-18 oed i leisio eu barn, rhannu pryderon a dod i adnabod ei gilydd yn well.

Bydd sesiynau’r fforwm yn cael eu harwain gan Casi Cartwright ac yn cael eu cydlynu gan Menter Môn a Hunaniaith.

Bwriad y fforwm ydi cynnig man diogel i ferched ifanc gael rhannu eu teimladau am bynciau amserol fel iechyd meddwl, hunan-ddelwedd, teimlo’n saff a tlodi mislif.

Bydd gweithdai creadigol hefyd yn cael eu cynnig i’r merched fel rhan o’r fforwm.

Dywedodd Casi: “Mi fyddwn ni’n creu cylch o gariad, cylch saff i chi agor i fyny a chael bod yn pwy bynnag da chi isio bod.

Dwi’n estyn fy llaw allan i chi a dwi’n gofyn i chi ddod i ymuno efo fi i gael sgwrs am fywyd, i gael sgwrs am eich profiadau chi, er mwyn i ni gyd gael dysgu gan ein gilydd.”

Nododd Jade Owen, Swyddog Prosiect Menter Môn sy’n cydlynu’r prosiect:

“Mae gallu cynnig sesiynau diogel fel hyn i ferched ble mae pawb yna am yr un rheswm ac yn barod i wrando ar ei gilydd yn braf iawn.

Gyda chymaint o bryderon yn wynebu merched ifanc a llawer o’r pryderon yma wedi bod yn y cyfryngau yn ddiweddar, mae rhai yn ei chael hi’n anodd i drafod yr hyn sydd yn eu poeni nhw, felly y gobaith ydi y bydd y fforwm yma yn cynnig y lle hwnnw i’r merched yma.”

Digwyddiadau rhithiol fydd y sesiynau gyda’r cyntaf ar y 9fed o Chwefror. Bydd y sesiynau yn rhedeg bob pythefnos dros gyfnod o 12 wythnos. Os oes gennych chi ddiddordeb yn mynychu’r fforwm neu eich bod chi am dderbyn mwy o wybodaeth yn gyffredinol yna cysylltwch gyda jade@mentermon.com cyn y 26ain o Ionawr i ddatgan diddordeb.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233