Ar ddechrau blwyddyn newydd mae cynllun Larder Cymru yn galw ar y sector cyhoeddus, ac ysgolion yn benodol i gynyddu’r ystod o gynnyrch Cymreig sydd ar eu bwydlenni.

Yn brosiect Cymru gyfan sy’n cael ei weithredu gan Menter Môn, y nod yw ceisio rhoi pwysau ar sefydliadau i adolygu cyflenwadau bwyd ac i weithio gyda’u darparwyr i gynyddu’r cynnyrch lleol sydd ar gael.

Daw’r ymgyrch newydd yn sgil cyhoeddiad diweddar ar ganllawiau ac adnoddau caffael newydd gan Gweinidog yr Economi yn Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething. Yn becyn cymorth ymarferol, y bwriad yw cefnogi caffael bwyd a chynhyrchion bwyd yn fwy cynaliadwy gan barhau i gydymffurfio â chyfreithiau caffael cyhoeddus.

Dafydd Jones yw Rheolwr Prosiectau Bwyd Menter Môn. Dywedodd: “Prif nod Larder Cymru yw cadw’r gadwyn gyflenwi’n lleol, er mwyn cadw arian yn lleol, ac yn y pen draw, diogelu swyddi. Rydym yn croesawu ymrwymiad y Llywodraeth i gaffael yn fwy cynaliadwy ac yn gofyn i swyddogion sefydliadau cyhoeddus i adolygu sut maen nhw’n prynu cynnyrch ac i roi mwy o bwyslais ar y lleol.”

Gyda Llywodraeth Cymru hefyd yn ymrwymo i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn oedran cynradd erbyn 2024, mae Dafydd yn cydnabod cyfleodd pellach i hyrwyddo bwyd a diod Cymreig.  Meddai: “Mae’r ymrwymiad yma yn gyfle arall am newid mewn polisi ac i gael mwy o gynnyrch Cymreig drwy cadwyni cyflenwi byrrach yn y sector gyhoeddus ac yn benodol mewn ysgolion. Trwy Larder Cymru byddwn yn cefnogi busnesau bwyd i ddatblygu a chyflenwi contractau newydd er mwyn manteisio ar y cyfleodd hyn. Mae gweini bwyd iach lleol ac o safon yn hollbwysig, gyda’r sgil effeithiau o wneud hynny yn eang – o sicrhau deiet iach i blant, i daclo newid hinsawdd trwy leihau milltiroedd bwyd.”

Mae Larder Cymru wedi bod yn cydweithio gydag un awdurdod lleol yn y gogledd i edrych ar ymarferoldeb cynyddu cynnyrch Cymreig ar fwydlenni. Mae Cyngor Bwrdeisdref Sirol Conwy eisoes yn gweini cynnyrch Llaeth y Llan, Edwards, a becws Henllan ac yn cydweithio a’u prif gyflenwr, Gwasanaeth Bwyd Harlech, i weld sut i wneud mwy i’r dyfodol.

Dywedodd y Cyng. Julie Fallon, Aelod Cabinet Cyngor Conwy gyda chyfrifoldeb dros Addysg: “Mae hwn yn bartneriaeth gyffrous gyda Menter Môn trwy Larder Cymru – ac yn newyddion da i fusnesau bwyd a diod lleol yn ogystal â disgyblion y sir. Gyda’r argyfwng costau byw yn hawlio penawdau ac yn rhoi mwy o bwysau ar deuluoedd rydym yn falch o allu darparu cinio ysgol llawn maeth gyda phwyslais ar y lleol am ddim i bob plentyn Cyfnod Sylfaen. Ein gobaith yn y pendraw yw y bydd hyn yn rhoi’r cychwyn gorau posib iddynt a’r cyfle i gyrraedd eu potensial o ran eu haddysg.”

Mae cyfres o rysetiau sy’n cydymffurfio â Deddfwriaeth Bwyd Iach Ysgolion wedi ei ddatblygu gan Larder Cymru gyda phwyslais ar gynnyrch Cymreig. Mae’r rysetiau ar gael i awdurdodau lleol ac i ysgolion sy’n awyddus i gyflwyno bwydlenni newydd a chaffael yn fwy cynaliadwy.

Mae Larder Cymru wedi ei ariannu gan Gynllun Datblygu Cadwyni Cyflenwi a Chydweithio trwy WEFO a Llywodraeth Cymru. Trwy’r cynllun hwn a phrosiectau arloesol eraill nod Menter Môn yw gweithredu er mwyn cael effaith bositif ar gymunedau drwy greu a darparu cyfleoedd i fusnesau a phobl leol.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233