Mae gwaith yn digwydd er mwyn gwella’r llwybr o amgylch Llyn Cefni. Bydd y prosiect bychain yma yn fan cychwyn i’r gwaith fydd yn digwydd i gysylltu nifer o gymunedau’r Ynys gyda choridor gwyrdd amlbwrpas.
Yn 2020 gwahoddwyd cymunedau i gyflwyno syniadau uchelgeisiol i Dasglu Adferiad Gwyrdd Llywodraeth Cymru. Roedd disgwyl i’r syniadau yma gefnogi adferiad gwyrdd cyflym wedi’r pandemig gan osod yr hinsawdd ac argyfyngau natur fel gwreiddiau i’r syniad.
Un o’r cynlluniau llwyddiannus hyn oedd Glasffordd Môn. Sicrhawyd cyllideb gan Menter Môn a Chyngor Sir Ynys Môn i ddatblygu gweledigaeth, paratoi ystod eang o ymyrriadau a chwblhau cynllun peilot. Mae’r cynllun hefyd wedi derbyn cefnogaeth barhaol gan Gyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru.
Eglurodd Wyn Morgan, Cadeirydd Grŵp Llywio Glasffordd Môn: “Rydym wedi bod yn chwarae gyda’r syniad ers nifer o flynyddoedd gan y byddai’n ychwanegu at y gwaith ‘da ni wedi ei wneud yn barod gyda Llwybr yr Arfordir a Lôn Las Cefni. Y gwahaniaeth gyda Glasffordd Môn ydi’r pwyslais ar fioamrywiaeth, mae hyn felly yn sicrhau ased ar gyfer natur yn ogystal ag aelodau o’r cyhoedd.”
Mae gan y cynllun hefyd bencampwr sef David Lea-Wilson MBE, sydd hefyd yn Aelod o’r Tasglu. Mae’r cyd-berchennog o Gwmni Halen Môn yn credu bod y cynllun yn bwysig iawn i’r Ynys, dywedodd: “Mae’r pandemig wedi amlygu pwysigrwydd a gwerth treulio amser yn yr awyr agored a dod i nabod natur unwaith eto. Bydd y cynllun hefyd yn cyfrannu at daclo newid hinsawdd, dadwneud y dirywiad mewn bioamrywiaeth a chysylltu pobl gyda’u cymunedau.
Mae’r bartneriaeth sydd wedi datblygu rhwng nifer o fudiadau a chyrff dros y flwyddyn ddiwethaf yn dangos pa mor gryf ydi’r gefnogaeth tuag at y cynllun yma ac rwyf yn hyderus bod modd i ni sicrhau mwy o gyllid er mwyn troi Glasffordd Môn yn realiti dros y tair blynedd nesaf.”
Disgwylir i’r adroddiad terfynol ar Glasffordd Môn fod yn barod erbyn diwedd mis Mawrth a bydd yn agored i’r cyhoedd gyda’r cyfle i’r cyhoedd roi sylwadau arno hefyd. Bydd y gwaith yn Llyn Cefni yn digwydd ym mis Chwefror a Mawrth a bydd hyn yn gwella ei harddwch i aelodau’r cyhoedd.