Bydd Hwb Hydrogen Caergybi yn cynnal diwrnod gwybodaeth i aelodau’r cyhoedd sydd eisiau dysgu mwy am y prosiect.
Y cyntaf o’i fath yng Nghymru, bydd yr Hwb yn cael ei ddatblygu ar Barc Cybi gan y fenter gymdeithasol, Menter Môn, gan gydweithio â Chyngor Sir Ynys Môn. Bydd hydrogen gwyrdd yn cael ei gynhyrchu ar y safle a’i ddosbarthu fel tanwydd ar gyfer cerbydau di-allyriad sy’n cael eu pweru gan hydrogen.
Bydd y digwyddiad galw heibio yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Ucheldre, Caergybi ar y 13eg o Ragfyr rhwng 14:00 a 19:30. Bydd yn gyfle i drigolion a busnesau lleol gwrdd â’r tîm i ddarganfod mwy am y cyfleoedd allai’r Hwb Hydrogen ei gynnig i’r ardal o ran yr economi a mynd i’r afael â newid hinsawdd.
Mae arbenigwyr wedi bod yn hyrwyddo manteision hydrogen fel tanwydd di-garbon ar gyfer trafnidiaeth, storio ynni, a chynhesu cartrefi ers tro. Yn cael ei weld fel cam cychwynnol, mae’r cynlluniau newydd ar gyfer Caergybi yn golygu y byddai hydrogen yn cael ei gynhyrchu ar y safle a’i ddosbarthu oddi yno fel tanwydd.
Dafydd Gruffydd yw Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn: “Rydym yn falch o fod yn cynnal y digwyddiad gwybodaeth yma. Rydym yn annog preswylwyr a busnesau’r ardal leol i alw heibio i sgwrsio efo ni fel y gallant ddysgu mwy am y cynigion a’r buddion posibl i Gaergybi.
“Fel cwmni lleol rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod cyfleoedd am swyddi a chadwyn gyflenwi yn aros yn yr ardal – dyma oedd ein gweledigaeth wrth sefydlu Menter Môn. Mae’r Hwb newydd hefyd yn cyd-fynd â phrosiectau eraill Menter Môn, yn benodol ein cynllun ynni llanw oddi ar arfordir Ynys Cybi, gan fod modd cynhyrchu hydrogen o drydan adnewyddadwy.”
Y Cynghorydd Bob Parry yw deilydd portffolio Priffyrdd, Gwastraff ac Eiddo yng Nghyngor Sir Ynys Môn, dywedodd: “Mae hwn yn gyfle gwych i ni ar yr ynys ac ar draws gogledd Cymru i allu gwneud gwahaniaeth wrth i ni fynd i’r afael â newid hinsawdd gan bod modd cynhyrchu hydrogen mewn ffordd lân. Dyma’r allwedd i sicrhau fod trafnidiaeth a diwydiant yn cyrraedd targedau allyriadau a charbon sero-net.”
Nod cam cyntaf y prosiect yw sicrhau caniatâd cynllunio, gyda’r digwyddiad gwybodaeth gymunedol yn rhan bwysig o hyn. Bydd yr ail gam yn rhoi’r seilwaith angenrheidiol yn ei le i gynhyrchu hydrogen gwyrdd ar y safle i’w ddefnyddio fel tanwydd di-allyriad.
Mae’r cynllun arfaethedig yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.