Mae lansio arolwg archeolegol ym Mharc Cybi wythnos yma yn nodi cychwyn ar y gwaith o ddatblygu Hwb Hydrogen Caergybi. Mae’r arolwg yn rhan o’r broses o gwrdd â gofynion cynllunio sydd angen ei gwblhau cyn i unrhyw waith adeiladu ddechrau ar y safle.

Menter Môn sy’n gyfrifol am brosiect yr Hwb gyda chefnogaeth Cyngor Sir Ynys Môn, a dyma fydd y datblygiad hydrogen cyntaf o’i fath yng Nghymru. Mae’r cynllun yn cael ei weld fel cam pwysig yn yr ymdrech i leihau allyriadau carbon, yn ogystal â bod yn gyfle i hybu’r economi leol. Bydd hydrogen gwyrdd yn cael ei gynhyrchu ar y safle a’i ddosbarthu oddi yno fel tanwydd ar gyfer cerbydau hydrogen heb allyriadau.

Cwmni Wardell-Armstrong sy’n gwneud yr arolwg gydag Ymddiriedolaeth Archeolegol Gwynedd yn goruchwylio’r gwaith. Mae contractwyr o ogledd Cymru, Jones Bros a Cadarn Consulting Engineering, wedi eu penodi i gefnogi’r gwaith yn y cyfnod cynnar yma. Dechreuodd y gwaith ar safle ar y 26ain o Fehefin ac mae disgwyl iddo gymryd tua 28 diwrnod.

Dywedodd Justin Mason, Rheolwr Datblygu Busnes Ynni, Menter Môn: “Mae gweld gwaith yn dechrau go iawn yn gam pwysig i ni yn yr Hwb a hynny dim ond ychydig wythnosau ar ôl cyhoeddi ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda Hynamics,  busnes hydrogen rhyngwladol. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i fod yn rhan o’r datblygiad yma.

“Mae lansio’r arolwg archeolegol yn dilyn blynyddoedd o waith gan Menter Môn a’n partneriaid. Cafodd y prosiect ganiatâd cynllunio yn 2022 wedi astudiaeth dichonoldeb blaenorol adnabod cyfleoedd cyflogaeth a chadwyn lleol yn ogystal â budd amgylcheddol o gael hwb hydrogen. Rydw i’n falch iawn fod Menter Môn yn arwain y ffordd eto o ran ynni adnewyddol er mwyn mynd i’r afael â newid hinsawdd.”

Dafydd Gruffydd yw Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn; ychwanegodd: “Rydym yn falch iawn bod y gwaith wedi cychwyn ar safle Parc Cybi. Mae’n golygu ein bod ni gam yn nes at wireddu’r Hwb ac at fod yn ynys fwy gwyrdd sy’n gwneud cyfraniad pwysig at gyrraedd targedau sero net llywodraeth Cymru a’r DU. Fel prosiect sydd wedi ei ddatblygu’n lleol, mae hefyd yn golygu bod manteision a chyfleoedd yn gallu cael eu cadw’n lleol.”

Mae’r Hwb yn rhan o raglen Ynys Ynni Cyngor Sir Ynys Môn. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu cyllid sbarduno sydd wedi galluogi’r prosiect i gyrraedd y pwynt hwn. Mae disgwyl cefnogaeth ariannol bellach i gael ei gyhoeddi dros yr wythnosau nesaf ac mae Llywodraeth y DU hefyd wedi addo i gefnogi’r prosiect er mwyn cyrraedd targedau sero net erbyn 2050.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233