Mae mis prysur o flaen criw Ffiws Porthmadog, wrth i ni gynnal amrywiaeth o weithdai yn Hwb Arloesi i ddathlu gŵyl y Pasg.
Mae’r mwyafrif o weithdai am ddim yn addas ar gyfer plant, ond bydd ambell un yn agored i’r gymuned gyfan, a bydd tâl o £5.
Gofynnwn i rieni/gwarchodwyr aros drwy gydol y gweithdai.
Mae archebu lle yn hanfodol gan fod niferoedd cyfyngedig ar gael: cysylltwch â gwynedd@mentermon.com / 01248 858 845
Gweithdai i blant- AM DDIM!
Gweithdy creu addurn Pasg gyda bocsys wyau
14/04- 13:00-15:00
Ymunwch â’n gweithdy hwyliog lle bydd plant yn gwneud eu celf wal ar thema’r Pasg gan ddefnyddio bocsys wyau! Yn y weithgaredd ymarferol hon, bydd artistiaid bach yn trawsnewid bocsys wyau yn anifeiliaid lliwgar ac annwyl fel cwningod, cywion ac ŵyn.
Dewch â’ch bocsys wyau eich hun.
Gweithdy ffeltio Pasg
15/04- 13:00-15:00
Ymunwch â ni mewn gweithdy hwyliog a chreadigol lle gall plant wneud eu cywion Pasg hyfryd eu hunain trwy ffeltio! Bydd plant yn dysgu’r grefft o ffeltio nodwydd, gan ddefnyddio gwlân lliwgar yn crwydro’n rhydd i siapio a chreu eu cywion bach ciwt eu hunain i ddathlu’r Pasg. Ar ddiwedd y gweithdy byddwch yn mynd adref gyda chyw Pasg unigryw.
Mae’r gweithdy hwn yn berffaith ar gyfer plant 6 oed a hŷn, nid oes angen profiad o ffeltio’n flaenorol.
Gweithdy creu baneri Pasg
17/04- 13:00-15:00
Ymunwch â ni am weithdy hwyliog a chreadigol lle gall plant wneud bunting Pasg hyfryd eu hunain! Ar ddiwedd y gweithdy byddwch yn mynd adref gyda Bunting Pasg unigryw.
Mae’r gweithdy hwn yn berffaith ar gyfer plant 7 oed a hŷn, nid oes angen profiad flaenorol.
Gweithdy argraffu 3D
18/04- 9:30-12:30
Ymunwch â ni mewn gweithdy Argraffu 3D chreadigol. Mae’n gyfle gwych i rai ifanc fynegi eu creadigrwydd!
Mae lleoedd yn gyfyngedig i 5 o blant (a gwarchodwyr/rhieni).
Gweithdy pili pala mewn hen jar jam
21/04- 13:00-15:30
Croeso i’n gweithdy crefft hwyliog a chreadigol i blant, lle fyddem ni’n gwneud Pili Pala peg hardd mewn hen jar jam. Byddwn yn defnyddio peg dillad pren syml, yn ei baentio mewn lliwiau hyfryd, a rhoi adenydd lliwgar hyfryd arno. Mae hyn yn ffordd wych i ail ddefnyddio a rhoi bywyd newydd i hen jariau. Mae’n bosib ychwanegu goleuadau tylwyth teg i greu Lamp Pili Pala.
Dewch â’ch jariau jam eich hun.
Gweithdy creu bag tote Pasg
22/04- 13:00-15:00
Ymunwch â ni am weithdy hwyliog a chreadigol lle gall plant wneud bag tote Pasg hyfryd eu hunain. Ar ddiwedd y gweithdy, byddwch yn mynd adref gyda Bag Tote unigryw.
Mae’r gweithdy hwn yn berffaith ar gyfer plant 7 oed a hŷn, nid oes angen profiad blaenorol.
Gweithdy creu scrunchies Pasg
24/04- 13:00-15:00
Yn y gweithdy hwn i blant byddwn yn creu ‘scrunchies’ gwallt ar thema’r Pasg gan gynnwys scrunchies cwningen. O dan goruchwyliaeth technegydd, bydd eich plentyn yn rhoi cynnig ar y peiriant gwnïo ac yn dysgu sut i greu scrunchies gwallt.
Addas ar gyfer plant 7 oed a hŷn.
Gweithdy torrwr laser
25/04- 9:30-12:30
Ymunwch â ni mewn gweithdy Argraffu Laser creadigol. Mae’n gyfle gwych i rai ifanc fynegi eu creadigrwydd! Mae lleoedd yn gyfyngedig i 5 o blant (a gwarchodwyr/rhieni).
Addas i blant 10+
Gweithdai agored i bawb (plant ac oedolion)- £5 y sesiwn
Sesiwn gyda Wyn y Technegydd
04+11/04- 9:00, 10:30, 13:00, 14:30
18+25/04- 13:00, 14:30
Yn Ffiws, mae’n bosib i chi weithio ar brosiectau newydd neu presennol, cael hyfforddiant argraffu laser ac offer 3D, prototeipio’ch cynnyrch, arbrofi a datblygu syniadau. Mae’r rhain yn sesiynau 1.5 awr, gyda thâl o £5 yn ddyledus, ac yn agored i hyd at 5 unigolyn.
Gweithdy trwsio beics- NEWYDD!
17/04- 10:00-16:00
Galwch heibio i drwsio eich beic neu feic pedlo plant.
Gallwn eich helpu i drwsio puncture, addasu’r brêcs, neu gosod darnau newydd (dewch â nhw gyda chi).
Tâl o £5 yn ddyledus.