Mae’r gwobrau hyn yn agored i unigolion/busnesau sydd wedi cymryd rhan yn prosiectau SPF a NDA Menter Môn, sef Hwb Menter, Balchder Bro a Grymuso Gwynedd.

Rydyn ni eisiau dathlu eich llwyddiannau chi .O’r ysbryd entrepreneuriaid i’r mentrau llwyddiannus sy’n helpu i wneud  Ynys Môn a Gwynedd  yn rhagorol.

Bydd enillwyr bob categori yn cael eu gwahodd i noson ddathlu yn Galeri Caernarfon ar yr 11eg o Hydref 2024. Cyfle gwych i ddathlu eich cyflawniadau a rhwydweithio gyda busnesau eraill.

Balchder Bro 

  1. Gwobr Arwr Cymunedol
  2. Gwobr Hwb Cymunedol
  3. Gwobr Digwyddiad Cymunedol Y Flwyddyn
  4. Gwobr Mudiad Cymunedol

 

Grymuso Gwynedd

  1. Gwobr Menter Newydd Y Flwyddyn
  2. Gwobr Prosiect Y Flwyddyn
  3. Gwobr Arweinydd Grymusol Y Flwyddyn

 

Hwb Menter

  1. Gwobr Busnes Newydd y Flwyddyn (Gwynedd)
  2. Gwobr Busnes Newydd y Flwyddyn (Ynys Môn)
  3. Gwobr Rhyfelwr Eco (Gwynedd a Môn)
  4. Gwobr Arloeswr Arbennig (Gwynedd a Môn)

 

Am fwy o wybodaeth ac i wneud cais, dilynwch y linc isod.

Ffurflen Gais

 

Mae’r prosiectau hyn yn cael eu cyllido’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, trwy Gyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn. Maen’t hefyd yn cael eu cyllido’n rhannol gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS), is-gwmni sy’n eiddo llwyr i’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233