Cafwyd noson anhygoel yn dathlu llwyddiannau busnesau a grwpiau cymunedol Ynys Môn a Gwynedd yn noson Gwobrau Menter Môn.  Roedd y gwobrau hyn yn agored i unigolion / busnesau sydd wedi cymryd rhan yn brosiectau SPF a NDA Menter Môn, sef Hwb Menter, Balchder Bro a Grymuso Gwynedd. Roedden yn awyddus i ddathlu eich llwyddiannau chi. O’r ysbryd entrepreneuriaid i’r mentrau llwyddiannus sy’n helpu i wneud Ynys Môn a Gwynedd  yn rhagorol.

Cafodd enillwyr bob categori eu gwahodd i noson dathlu yn Galeri ar yr 11eg o Hydref 2024. Cyfle gwych i ddathlu eich cyflawniadau a rhwydweithio gyda busnesau a grwpiau eraill.

 

Hwb Menter

Busnes Newydd y Flwyddyn Gwynedd

Roedd y wobr hon i fusnes arbennig sydd wedi cychwyn busnes yng Ngwynedd o fewn y flwyddyn ddiwethaf.

Enillydd: Cymro Vintage

 

Busnes Newydd y Flwyddyn Ynys Môn

Roedd y wobr hon i fusnes arbennig sydd wedi cychwyn busnes ar Ynys Môn o fewn y flwyddyn ddiwethaf

Enillydd: Kico’s Dessert Bar

 

Rhyfelwr Eco

Pwrpas y wobr hon oedd cydnabod busnesau sydd â chymwysterau gwyrdd. Unai yn fusnes moesegol neu’n gymdeithasol gyfrifol.

Enillydd: Arfon Timber Frames

 

Arloeswr Arbennig

Pwrpas y wobr hon oedd cydnabod arloeswyr arbennig yng Ngwynedd neu Ynys Môn. Mae’r wobr hon yn cydnabod unigolion neu dimau sydd wedi dangos creadigrwydd a gweledigaeth eithriadol, wrth ddatblygu atebion arloesol.

Enillydd: Klaire Tanner

 

Grymuso Gwynedd

Prosiect Y Flwyddyn

Pwrpas y wobr hon oedd cydnabod grŵp cymunedol neu unigolion sydd wedi rhedeg prosiect llwyddiannus yng Ngwynedd. Prosiect sydd wedi gwneud gwahaniaeth amlwg yn yr ardal.

Enillydd: Clwb Heli

Menter Newydd Y Flwyddyn Gwynedd
Pwrpas y wobr hon oedd cydnabod llwyddiannau menter newydd unigryw sydd wedi cychwyn yng Ngwynedd o fewn y flwyddyn ddiwethaf ?

Enillydd: Menter Rabar

Arweinydd Grymusol
Pwrpas y wobr hon oedd cydnabod arweinydd sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar y gymuned leol yng Ngwynedd.

Enillydd: Dyddgu Williams.

Balchder Bro

Hwb Cymunedol
Pwrpas y wobr hon oedd dathlu llwyddiannau Hwb Cymunedol sy’n galon i’w gymuned yn Ynys Môn . Neuadd bentref, ysgol, clwb chwaraeon, tafarn gymunedol neu unrhyw leoliad tebyg sy’n cynnig hafan i weithgareddau cymunedol yr ardal.

Enillydd: Holyhead Maritime Museum

Arwr Cymunedol
Pwrpas y wobr hon oedd cydnabod holl Unigolyn Ynys Môn sydd methu gwneud digon ar gyfer eu cymuned.

Enillydd: Jude Williams

Mudiad Cymunedol
Pwrpas y wobr oedd dathlu llwyddiannau grŵp o bobl sy’n gweithio’n ddiflino dros eu cymunedau yn Ynys Môn.
Enillydd: Ffrindiau Llanbedrgoch

Digwyddiad Cymunedol
Pwrpas y wobr yma oedd dathlu llwyddiant digwyddiad sydd wedi digwydd yn Ynys Môn lenni..

Enillydd: Ysgol Henblas

Cafodd y dathliad hwn ei ariannu trwy un o raglenni Menter Môn, sef Balchder Bro Môn, sydd wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gyda chefnogaeth ariannol hefyd gan y Gwasanaethau Adfer Niwclear (NRS) ar ran yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear (NDA).


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233