Mae prosiect cyffrous iawn a’r cyntaf o’i fath yng Nghymru wedi lansio ym Mhorthmadog! Enw’r prosiect ydi Helo Port, ac mae’n gwahodd pobl i gael sgyrsiau chwareus gyda gwrthrychau stryd cyfarwydd fel pyst lamp, meinciau parc, cerfluniau ac arosfannau bysiau, gan ddefnyddio ffôn symudol!
Mae’r feddalwedd yma, sydd wedi di ddefnyddio ar draws y byd, yn rhoi ‘ymenydd’ llawn gwybodaeth ddefnyddiol i’r gwrthrych ac nid yn unig yn rhoi cyfle i bobl leol roi adborth ond hefyd yn gallu helpu gyda thwristiaeth gynaliadwy drwy ledaenu gwybodaeth a negeseuon am fusnesau’r ardal. Bydd y dechnoleg yn annog pobl i ryngweithio’n chwareus a’u hamgylchedd i greu newid cymdeithasol cadarnhaol a chymunedau mwy cynhwysol, gwella democratiaeth leol a helpu i adeiladu trefi’r dyfodol, a hynny i gyd yn ddwyieithog!
Dywedodd Cadeirydd Cyngor Tref Porthmadog Llywelyn Rhys “Mae prosiect ‘Helo Port’ yn arloesol yn y ffordd mae’n defnyddio technoleg glyfar i gasglu barn ac agweddau trigolion ac ymwelwyr i Borthmadog. Rwyf yn annog i bobl leol yn enwedig i roi tro ar ei ddefnyddio fel bod eu hadborth yn dylanwadu ar benderfyniadau’r Cyngor Tref wrth i ni ymdrechu i wella’r gymuned a lles unigolion. Mae barn a syniadau pawb yn bwysig wrth i ni symud ymlaen i amser newydd ôl-pandemig.”
Hyd yn hyn mae bron iawn i 500 o sgyrsiau gyda gwrthrychau wedi bod, ac rydym wedi hel gwybodaeth ddiddorol iawn.
Pan ofynwyd am un gair i ddisgrifio’r stryd, bu i 90.5% o bobl ddefnyddio gair positif, gyda dim ond 4.8% yn defnyddio gair negyddol a 4.8% yn defnyddio gair niwtral. Yn ogystal â hyn, pan ofynwyd pa mor ddeniadol ydi’r ardal leol hon, bu i 92.9% ymateb gyda sylw positif, a dim ond 7.1% wnaeth ymateb gyda sylw negyddol. Pan ofynwyd a oedd hi’n swnllyd y diwrnod hwnnw, atebodd 50% ei bod hi braidd yn swnllyd, 44.4% ei bod hi’n ddistaw a 5.6% yn dweud mai dim ond oherwydd traffic yr oedd hi’n swnllyd.
Cafwyd hefyd sylwadau diddorol e.e. pan holwyd am olau stryd, dyma oedd un o’r ymatebion: “Byddwn yn lleihau rhywfaint o’r golau stryd yn hwyr yn y nos, i arbed ynni a hefyd i wella’r profiad awyr dywyll; byddwn hefyd yn ystyried y potensial i rai pyst lampau ddarparu pwyntiau gwefru EV.”
Mae’r feddalwedd yn ofnadwy o hawdd i’w ddefnyddio, dim ond ffôn symudol syml sydd ei angen er mwyn tecstio y rhif ar yr arwydd. Yn ogystal â bod yn hawdd iawn i’w ddefnyddio, mae hefyd yn gwbl ddiogel. Nid oes yna unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei gadw, ac mae’r holl ymatebion yn ddienw.
Dywedodd Rhian Hughes, Uwch Swyddog Prosiect AGW “Bydd y cynllun yn rhedeg am 12 mis, gyda Phorthmadog wedi ei ddewis fel y dref fwyaf addas fel man cychwyn. Nid yn unig oherwydd bod yna gymysgedd dda o bobl leol ac ymwelwyr tymhorol ond hefyd mae Menter Môn wedi gosod technoleg Wi-Fi ar y stryd fawr yn ogystal â’r meddalwedd ‘Patrwm’, felly bydd modd plethu’r prosiectau hyn i dechnoleg Helo Port hefyd.
Rydym hefyd yn hynod falch bod y prosiect yma yn gallu ychwanegu gwerth i brosiect ‘Pontio’r Cenedlaethau’ Cyngor Gwynedd. Byddwn yn cyfrannu 3 Mainc Cyfeillgarwch ym Mhorthmadog, a bydd y meinciau lliwgar yma yn rhai o’r gwrthrychau fydd yn sgwrsio gyda phobl yn y dref!”
Bydd y peilot yn rhedeg nes mis Awst 2022 ac rydym yn gobeithio hel hyd yn oed mwy o wybodaeth ddiddorol dros y misoedd nesaf. Bydd mewnwelediad fel hyn yn ddefnyddiol iawn i sefydliadau fel y cyngor tref i sicrhau eu bod yn deall beth mae pobl leol eisiau.
Cyllidwyd y prosiect hwn drwy raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Wledig Cymru 2014-2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. Caiff hefyd ei ran gyllido gan yr Awdurdod Dadgomisiynu Niwclear (NDA) a Chyngor Gwynedd.