Mae Larder Cymru yn brosiect newydd sbon gan Menter Môn, yn dilyn prosiect llwyddiannus Môn Larder. Bydd y prosiect yn gweithio gyda chaffael cyhoeddus y sector bwyd, gan weithio i sicrhau bod cyflenwad bwyd yn lleol a bod y cadwyni cyflenwi mor fyr â phosib.

Ers i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ystyried diwygio’r rheoliadau caffael presennol, er mwyn cynyddu buddion caffael y sector gyhoeddus i economi a chymdeithas Cymru.

Gyda’r trafodaethau hyn yn digwydd ar lefel uwch, mae’r cynllun Larder Cymru yn gyfredol a pherthnasol ac yn sicrhau y bydd yna gapasiti ar lawr gwlad i weithredu pe bai’r rheoliadau newydd yn dod i rym.

Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn: “Does yna ddim amheuaeth ein bod ni yng nghanol cyfnod o newid, ond wrth newid mae cyfleoedd yn codi a gobeithio y bydd y cyfleoedd yn rai i wireddu amcanion Larder Cymru.”

Un o brif amcanion caffael bwyd a diod ydi gwerth cymdeithasol. Fel cwmni sydd yn gweithredu er budd y gymuned, mae gwerth cymdeithasol yn bwysig iawn i Menter Môn a dydi Larder Cymru’n ddim gwahanol.

Mae llawer o waith y cwmni yn digwydd o amgylch Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol gan y Llywodraeth ac mae gwerth cymdeithasol a’r economi gylchol yn bwysig iawn i’r cwmni.

Prif bwrpas y prosiect ydi sicrhau bod caffael cyhoeddus bwyd a diod yn cael ei gadw’n lleol ac mai cynnyrch Cymreig sy’n cael ei ddefnyddio os yn bosib. Canlyniad hyn fyddai cefnogi’r economi leol, cefnogi cynhyrchwyr a ffermwyr Cymreig a gwarchod yr amgylchedd wrth gadw’r cadwyni cyflenwi yn fyrrach.

Yn ddiweddar cafodd digwyddiad ‘Symud Ymlaen’ Larder Cymru ei lansio gyda chyflwyniadau gan Sophie Colquhoun, Greg Parsons, Myrddin Davies, Mark Grant and Prys Jenkins.

Os hoffech chi ail-wylio’r webinar neu ei wylio am y tro cyntaf yna gallwch wneud hyn ar www.lardercymru.wales.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233