Mae angen sicrhau bod bwyd a diod lleol a chynaliadwy yn cael eu blaenoriaethu ym maes caffael y sector cyhoeddus; dyma oedd y neges yn nigwyddiad diweddar ‘Bwydydd y Dyfodol’ ym Mae Caerdydd. Daeth mentrau sydd yn cael eu hariannu gan Raglen Datblygu Gwledig Llywodraeth Cymru at ei gilydd yn y Senedd i edrych ar gaffael bwyd cynaliadwy a chyfleoedd i ddatblygu cadwyni bwyd lleol.

Larder Cymru, sy’n cael ei redeg gan Menter Môn, oedd un o’r prif brosiectau i fynychu’r digwyddiad, ac roedd yn gyfle i dynnu sylw at fanteision cyflwyno mwy o fwyd lleol i fwydlenni sector cyhoeddus. Roedd cynrychiolwyr o asiantaethau’r llywodraeth, cynhyrchwyr bwyd, arbenigwyr y diwydiant, a dylunwyr polisi yn gallu rhannu arferion gorau a ffyrdd arloesol o wella argaeledd cynnyrch lleol ar draws y sector cyhoeddus, gan gynnwys mewn ysgolion, ysbytai, a swyddfeydd y llywodraeth.

Dywedodd Dafydd Jones, Rheolwr Prosiectau Bwyd Menter Môn: “Roedd hwn yn blatfform gwych i ni allu denu sylw at ein llwyddiannau, yn ogystal ag amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer sicrhau manteision cadwyn gyflenwi gryfach ar gyfer cynnyrch bwyd a diod o Gymru. Mae ein hymchwil a’n profiad yn dangos yr effaith gadarnhaol y gallwn ei gael ar yr economi leol drwy gefnogi cynhyrchwyr Cymreig. Gall hefyd arwain at llai o allyriadau carbon sy’n gysylltiedig â chludiant, a sicrhau cynnyrch mwy maethlon. Rydym yn edrych ymlaen at barhau gyda’r gwaith yma a chefnogi’r sector wrth iddo addasu i ofynion newidiol y farchnad a phobl.”

Ychwanegodd Abi Marriott, Cydlynydd Dosbarthu Bwyd Cymunedol Cymru (WCFD): “Dangosodd ddigwyddiad ‘Bwydydd y Dyfodol’ dystiolaeth glir o sawl menter o sut y gall modelau gwahanol weithio i gefnogi caffael bwyd cyhoeddus sy’n cynnig manteision amgylcheddol, economaidd, a chymdeithasol i bobl Cymru.”

Roedd yr Aelodau o’r Senedd a wnaeth noddi’r digwyddiad yn cynrychioli ystod y sbectrwm gwleidyddol gan gynnwys Cefin Campbell AS, Eluned Morgan AS, Jane Dodds AS, Peter Fox AS, a Russell George AS.

Cafwyd sesiynau holi ac ateb, cyflwyniadau, a grwpiau ffocws yn ystod y gynhadledd oedd yn caniatáu rhannu profiadau a barn ar gyflwyno mwy o fwyd lleol i’r sector cyhoeddus.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233