Yn ddiweddar bu Larder Cymru, un o brosiectau Menter Môn, ynghyd â phedwar o gynhyrchwyr bwyd o Gymru yn bresennol yn ddigwyddiad LACA-UK ar y 6ed ar 7fed o Orffennaf, yr unig ddigwyddiad penodol cenedlaethol i’r sector bwyd ysgol a gynhaliwyd yn yr Hilton Metropole yn y NEC Birmingham.

Roedd cynhyrchwyr Cymreig Henllan Bakery, Harlech Foodservce Ltd, Llaeth y Llan a Plas Farm yn bresennol ar stondin Larder Cymru ym Mhrif Ddigwyddiad LACA-UK i arddangos y cynnyrch y gallant ei gynnig i’r sector bwyd ysgol ar draws y Deyrnas Unedig.
Dywedodd Bethan Fraser-Williams, Cyfarwyddwr Prosiectau Menter Môn: “Digwyddiad LACA-UK yw’r unig ddigwyddiad cenedlaethol penodol sydd wedi’i anelu at y sector bwyd ysgol. Mae’n gyfle gwych i gynhyrchwyr bwyd o Gymru arddangos eu cynnyrch i’r sector a gwneud cysylltiadau ag awdurdodau lleol amrywiol a chwmnïau’r sector preifat sy’n gweithio o fewn y gadwyn cyflenwi bwyd ysgolion ledled y DU.”

“Ein nod gyda Larder Cymru yw datblygu cadwyni cyflenwi byrrach, a chefnogi’r sector bwyd a diod yng Nghymru i ymateb i gyfleoedd yn y sector cyhoeddus. Gall cadwyni cyflenwi byrrach arwain at fanteision economi gylchol yn ogystal â gwella cynaliadwyedd cyflenwad sydd yn ei dro yn cael effaith ar gyflogaeth a diwydiant lleol. Rydym yn gweld diddordeb gan fusnesau newydd a rhai sefydledig yng nghyflenwad y sector cyhoeddus fel llwybr i’r farchnad ar adeg pan fo cyfleoedd newydd yn agor.”

Dywedodd Owain Roberts, Cyfarwyddwr Llaeth y Llan: “Cawsom ddau ddiwrnod prysur iawn i lawr ym Mirmingham ar gyfer digwyddiad LACA-UK yn rhwydweithio gyda darpar gwsmeriaid amrywiol. Mae’r sector cyhoeddus yn farchnad yr ydym am fynd mewn iddi ymhellach, a gobeithio yn dilyn y digwyddiad y bydd gennym fwy o gyfleoedd i gyflenwi’r sector cyhoeddus.”
Dywedodd David Roberts, Rheolwr Cyfrifon Allweddol – Addysg yn Harlech Foodservice Ltd: “Roedd yn ddigwyddiad gwych i’r sector bwyd ysgol, dyma’r lle i fod. Siarad â chyflenwyr hen a newydd a gallu dal i fyny â datblygiadau o fewn y sector.”

Ychwanegodd David: “Mae’r gwaith mae Larder Cymru yn ei wneud i amlygu pwysigrwydd cynnyrch lleol i’r cwsmer, ac i Harlech Foodservice fod yn rhan o’r prosiect yn wych i’n busnes, ac i holl ethos cynnyrch Cymreig, ac rydym ni wedi gweld cynnydd yn y diddordeb mewn cynnyrch Cymreig, nid yn unig gan gwsmeriaid sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ond ledled y DU, gan fod Cymru’n gartref i fwyd a chynnyrch gwych.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i www.lardercymru.wales neu e-bostiwch info@lardercymru.wales. Fel arall, dilynwch @mentermon ar gyfryngau cymdeithasol.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233