Bu cynllun ynni llanw Gogledd Cymru, Morlais, yn llwyddiannus yng Ngwobrau Partneriaid Gwerthfawr Gyrfa Cymru a gynhaliwyd yn y Senedd, Caerdydd yr wythnos hon. Mae’r cynllun, sy’n cael ei reoli gan fenter gymdeithasol, Menter Môn, wedi ennill y categori Newydd-ddyfodiad Gorau.
Mae llwyddiant yn y gwobrau hyn yn amlygu ymroddiad Morlais i greu cyfleoedd ar gyfer datblygu’r gweithlu ac addysgu pobl ifanc am rôl bwysig ynni’r llanw wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Mae Gwobrau Gyrfa Cymru yn dathlu cyfraniadau eithriadol i arloesi datblygiad gyrfa ledled Cymru. Mae gwobr y Newydd-ddyfodiad Gorau yn cydnabod sefydliadau sydd wedi cael effaith sylweddol mewn amser byr.
Wrth dderbyn y wobr, mynegodd Fiona Parry, Swyddog Prosiect Sgiliau a Hyfforddiant, ei diolchgarwch, “Dechreuais gyda Morlais ychydig dros flwyddyn yn ôl, ac mae’n teimlo’n wych i gael ein henwebu ac i ennill y wobr yma. Mae’r cydweithio gyda Gyrfa Cymru er mwyn ymgysylltu gyda phobl ifanc yn rhan holl bwysig o’r rôl. Mae’n fraint cael mynd mewn i’r ysgolion i sôn am brosiect Morlais, ac i ysbrydoli’r bobl ifanc i feddwl a pharatoi am eu dyfodol.
Ychwanegodd hi “Rydym wrth ein boddau i dderbyn y wobr yma. Fel prosiect Menter Môn, mae’n holl bwysig i ni ym Morlais ein bod yn hyrwyddo’r prosiect yn Ynys Môn ac ar draws y rhanbarth i ysbrydoli pobl ifanc i feddwl am eu dyfodol, ac i feddwl am yrfa yn y sector holl bwysig yma. Diolch o galon i Yrfa Cymru, yn enwedig John Edwards, am drefnu’r holl ddigwyddiadau sydd wedi galluogi ni gynnal y sgyrsiau pwysig yma gyda’r bobl ifanc.”
Fel un o brosiectau ynni llif llanw mwyaf y byd sydd wedi cael caniatâd, bydd Morlais yn defnyddio pŵer y llanw oddi ar arfordir Ynys Môn i gynhyrchu trydan glân. Mae disgwyl i’r tyrbinau cyntaf gael eu defnyddio yn 2026.
Cefnogir datblygiad Morlais gan gyllid o Gronfa Datblygu Ranbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, ynghyd â chyfraniadau gan Gyngor Sir Ynys Môn, yr NDA a Chynllun Twf Gogledd Cymru.