Wedi cyfnod hir o golli allan ar berfformio, cymdeithasu a chael hwyl, mae’r cyfle i blant ymuno â Theatr Ieuenctid Môn yn ôl!
Cynllun yw TIM sy’n darparu cyfleoedd celfyddydol blaengar ac arbrofol i blant a phobl ifanc Ynys Môn. Mae croeso cynnes i blant cynradd rhwng 7-11 ac i bobl ifanc rhwng 12-18.
Cynhelir 5 sesiwn TIM wythnosol mewn gwahanol ardaloedd ledled yr Ynys. Y bwriad yw meithrin a datblygu sgiliau perfformio llwyfan a ffilm, creu gwaith byrfyfyr, rhoi cynnig ar genres gwahanol a pherfformio yn gyhoeddus.
Ni fydd y tâl aelodaeth arferol yn cael ei godi am yr hanner tymor cyntaf, felly bydd y cyfan yn cael ei gynnig am ddim! Meddai Richard Owen, Swyddog Maes Menter Iaith Môn, “Mae TIM yn golygu rhywbeth gwahanol i bawb. Rydym yn awyddus i roi’r cyfle i bob plentyn neu berson ifanc i arbrofi, i gymdeithasu, i wneud ffrindiau newydd ac i ddysgu – am y byd perfformio ac amdanyn nhw eu hunain fel unigolion.”
“Mae hi wedi bod yn gyfnod hir ac anodd, ond mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud ein gorau dros y genhedlaeth nesaf, a sicrhau adferiad llwyddiannus i’n darpariaeth greadigol, cyfrwng Cymraeg.”
Ni fyddai Theatr Ieuenctid Môn yn llwyddiannus heb gefnogaeth ein tiwtoriaid talentog. Mae pob sesiwn yn cael ei gynnal gan bobl leol, brofiadol a brwdfrydig. Yn ogystal â’r profiad, mae’r tiwtoriaid yn gyflogedig ac felly mae’n gyfle gwych i diwtoriaid y dyfodol i dderbyn profiad gwaith.
Felly, mae teulu TIM yn chwilio am fwy o diwtoriaid i ymuno hefo nhw. Oes gen ti ddiddordeb? Neu wyt ti’n nabod rhywun fyddai’n diwtor gwych, ac yn barod i roi profiadau bythgofiadwy i blant a phobl ifanc y fro? Cysylltwch gyda rich@mentermon.com am fwy o fanylion neu am sgwrs bellach.
Edrychwn ymlaen!