Dros y misoedd diwethaf mae Menter Môn wedi bod yn cydlynu’r prosiect rhagnodi gwyrdd cyntaf ar yr ynys. Wrth weithio ar y cyd gyda’r feddygfa ym Miwmares, mae’r cynllun wedi gallu gwella lles unigolion a gweithio tuag at ansawdd bywyd gwell i bobl Môn.
Pwrpas y cynllun ydi annog oedolion sydd yn anactif ac yn cael eu heffeithio gan faterion iechyd meddwl ysgafn neu gymhedrol i fanteisio ar eu mannau gwyrdd cymunedol.
Unwaith y bydd atgyfeiriad wedi’i wneud gan y meddyg teulu, bydd yr unigolion yn mynychu sesiwn wythnosol 2.5 awr o hyd mewn gwarchodfa natur leol dros gyfnod o 8 wythnos. Yn ystod y sesiwn byddent yn dod i nabod y warchodfa trwy ddysgu am natur a dysgu sgiliau coetir.
Nododd Delyth Phillipps, Cydlynydd Cwlwm Seiriol, “Mae hi mor braf gweld y gwahaniaeth sydd yn y bobl yma ar ddiwedd wythnos 8 o gymharu a sut oedden nhw ar ddechrau’r cynllun. Mae’r cynllun yn datblygu sgiliau ac yn ffordd wych o godi hyder unigolion. Mae hyn wedyn yn galluogi iddyn nhw fynd ati i drio pethau newydd yn eu bywydau o ddydd i ddydd.”
Nododd un unigolyn oedd yn rhan o’r cohort diwethaf bod yr awyrgylch yn “gyfeillgar, hamddenol ac yn anffurfiol iawn. Roedd pob wythnos yn wahanol, yn gyfle i ddysgu gwybodaeth a sgiliau gwahanol.”
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae pobl wedi dod yn llawer fwy ymwybodol o’u hiechyd, boed hynny yn gorfforol neu’n feddyliol. Does yna ddim amheuaeth bod gwneud gweithgareddau yn yr awyr agored ac yng nghanol byd natur yn cael effaith gadarnhaol ar ein iechyd corfforol a meddyliol.
Mae’r cynllun am sicrhau bod mwy o bobl yn ymwybodol bod rhagnodi gwyrdd yn cael ei gynnig ar yr ynys ac yn annog unrhyw un sydd yn dioddef gydag unrhyw anhwylderau iechyd meddwl i ymweld a’u meddyg lleol.
Rŵan bod y cynllun wedi cael ei beilota yn ardal Seiriol fel rhan o Gwlwm Seiriol, mae Menter Môn yn edrych ymlaen at ymestyn y cynllun gan wneud gwahaniaeth i les unigolion ar hyd a lled yr ynys.
Am fwy o wybodaeth ynglyn â’r cynllun, cysylltwch â: Delyth Phillipps – 07815 709240 / delyth@mentermon.com neu Sioned Morgan Thomas – sioned@mentermon.com.