Gyda phobl ar hyd a lled y wlad yn ei chael hi’n anodd dod o hyd i gartrefi, mae’r broblem yn amlwg iawn ym Môn hefyd.

Dros gyfnod o ddau weithdy mae Menter Môn wedi ymateb i’r her sy’n wynebu pobl leol wrth brynu tai gan ddechrau’r sgwrs i ddod o hyd i ddatrysiad.

Trwy gydlynu gweithdai rhwng asiantaethau tai, mentrau cymdeithasol, awdurdodau lleol, gwleidyddion a phobl leol – mae Menter Môn wedi codi’r cwestiwn o sut mae ymateb i’r broblem enbyd yma.

Roedd y gweithdai yn gyfle i wyntyllu syniadau, cynnal trafodaethau a rhannu barn o ran yr hyn sy’n achosi’r broblem, beth fyddai’n gymorth i ddatrys y broblem a sut byddai llwyddiant yn edrych.

Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Aelod Seneddol Ynys Môn:

“Rydan ni’n wynebu argyfwng yma ym Môn o ran anhawster llawer o bobl, yn enwedig pobl ifanc, i ddod o hyd i gartrefi i’w prynu neu eu rhentu.

Tra bod pwyso am weithredu cadarn gan Lywodraeth yn bwysig, mae arloesi’n lleol yn y ffordd yr ydan ni’n ceisio ymateb i’r broblem yn hanfodol hefyd.

Dyna pam fy mod yn falch o gymryd rhan yn y gweithdai yma gan Menter Môn, ac rwy’n gobeithio y bydd y gwaith yn arwain at gamau ymarferol all fod yn rhan o’r ymateb i’r argyfwng.”

Ychwanegodd Elen Hughes, Prif Swyddog Menter Iaith Môn:

“Fel Menter Iaith mae hi’n bwysig iawn i ni fod pobl Môn yn cael y cyfle i fyw yn eu hardal leol er mwyn sicrhau bod yr ymdeimlad o gymuned yn cael ei gadw yma a bod y Gymraeg hefyd yn parhau i ffynnu yma.

‘Da ni’n gweithio ar y cyd hefo prosiect LEADER Môn i ddadansoddi rhai o’r ymatebion sydd wedi cael eu cynnig i’r heriau er mwyn gweld pa ddatrysiadau gallwn ni eu peilota.”

Rhai o’r syniadau cafodd eu cynnig oedd: adeiladu tai modiwlar, datblygu dealltwriaeth pobl ifanc o’r farchnad dai, adnewyddu adeiladau gwag a llunio Siarter Dai Ynys Môn. Y cam nesaf o’r broses fydd penderfynu sut mae datblygu’r syniadau yma i fod yn ddatrysiadau ymarferol.

Nododd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn: “Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol gan Lywodraeth Cymru yn bwysig iawn i’n holl waith ni ym Menter Môn.

‘Da ni’n gwmni sy’n trio sicrhau cyfleoedd gwaith o safon i bobl leol, yn datblygu cyfleoedd a thechnoleg yn y meysydd twf, yn gwarchod yr amgylchedd a’r Gymraeg.

Wrth i ni fod yn gweithio ar yr holl rinweddau hyn mae hi’n naturiol ein bod ni’n poeni am ein cymunedau, mae’n amhosib i ni gadw pobl leol yn eu cymunedau gyda chynlluniau arloesol a swyddi o safon os nad oes yna gyfleoedd iddyn nhw gael cartrefi.

Roedd gofyn felly i ni wneud rhywbeth i ddeall y broblem ac ystyried atebion i’r heriau – dyma ble daeth y syniad o gynnal y gweithdai trafod tai.

Y bwriad a’r gobaith ydi y bydd y gweithdai hyn yn datblygu i fod yn ddatrysiadau ymarferol ar lawr gwlad er mwyn sicrhau gwell siawns i bobl leol fod yn prynu neu’n rhentu cartrefi.”


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233