Mae prosiect ynni adnewyddadwy Ynys Môn yn cael effaith drawsnewidiol ar y sector ynni llanw yn ogystal â chymunedau lleol. Dyma ganfyddiadau adroddiad diweddar ar gam cyntaf prosiect Morlais gan Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd Wavehill.

Mae’r adroddiad yn amlygu bod y cynllun, sy’n cael ei arwain gan Menter Môn wedi sicrhau bod Cymru bellach yn chwarae rhan flaenllaw yn y maes ynni llanw. Mae adborth gan ddatblygwyr technoleg a rhanddeiliaid cadwyn gyflenwi yn dangos bod y datblygiad wedi arwain at gynnydd mewn hyder a chefnogaeth wleidyddol, gyda’r gobaith y bydd hynny yn ei dro yn hybu twf yn y sector.

Gyda’r potensial i gynhyrchu hyd at 240MW o drydan, Morlais yw’r prosiect ynni llanw cyntaf ar y raddfa hon i gael ei reoli gan fenter gymdeithasol, ac mae’r cwmni yn obeithiol y gall barhau i arloesi.

Mae Gerallt Llewelyn Jones o Morlais yn egluro: “Rydym yn falch iawn o’r hyn sydd wedi’i gyflawni a’n bod wedi cyrraedd pwynt lle mae’r effaith yn lleol ac yn genedlaethol yn cael ei gydnabod. Roedd sicrhau budd i gymunedau yma ar Ynys Môn yn rhan o’r cynllun o’r cychwyn, ond mae’r adroddiad hefyd yn cydnabod effaith genedlaethol ehangach Morlais, sy’n newyddion gwych i’r prosiect a’r sector cyfan.

“Yn economaidd, rydym eisoes wedi cyfrannu at greu swyddi, yn ystod y cyfnod ymgynghori cychwynnol. Ac wrth i’r prosiect fynd rhagddo a gyda chontractwyr lleol yn eu lle, mae disgwyl y bydd cyfleoedd pellach am swyddi, ynghyd â gwerth cynyddol o fewn y gadwyn gyflenwi ar draws gogledd Cymru.”

Yn ogystal â sicrhau manteision economaidd, mae creu budd cymdeithasol  bob amser yn uchel ar agenda Menter Môn a Morlais.

Dafydd Gruffydd yw Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn, ychwanegodd: “Mae’r adroddiad hwn yn dangos ein bod ni fel sefydliad mewn sefyllfa dda i gyflawni prosiectau datblygu cynaliadwy ar raddfa fawr yn llwyddiannus. Roedd perchnogaeth leol ac sicrhau bod Morlais yn cyflawni ar gyfer ein cymunedau yn rhan holl bwysig o’n gweledigaeth. Er mai hwn fydd y sbardun o hyd, rwy’n falch hefyd bod model gweithredu unigryw Morlais yn cael ei gydnabod am ei botensial i ddenu datblygwyr technoleg o bob rhan o’r DU a thu hwnt hefyd – sy’n cadarnhau ein rôl ni fel cwmni wrth galon y sector pwysig hwn.”

Mae’r gwaith ar Is-orsaf Morlais ger Ynys Lawd bron wedi’i gwblhau, mae disgwyl i’r tyrbinau cyntaf gael eu gosod yn y môr yn 2026. Mae’r prosiect wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru ac mae wedi ei gefnogi gan yr Awdurdod Datgomisiynu Niwclear a Chyngor Sir Ynys Môn.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233