Wrth i waith adeiladu seilwaith ar brosiect ynni llanw mwyaf Cymru barhau, mae Claire Palmer, arbenigwr yn y maes, yn ymuno â’r tîm fel Cyfarwyddwr Rhanddeiliaid.

Daw Claire â chyfoeth o brofiad a chysylltiadau gyda hi o’r sector ynni morol. Bydd yn gyfrifol am gysylltu â’r gadwyn gyflenwi, datblygwyr tyrbinau, yn ogystal â sgiliau a hyfforddiant, er mwyn sicrhau’r cyfleoedd gorau i Gymru, wrth i’r safle ddatblygu.

Yn wreiddiol o Sir Benfro, symudodd Claire i ogledd Cymru flwyddyn yn ôl, oherwydd ei diddordeb yn yr amgylchedd a’r awyr agored. Ar ôl gweithio ar brosiectau seilwaith, o ddatblygu porthladdoedd i ynni adnewyddadwy mae hi’n dod â dimensiwn strategol ychwanegol i dîm sy’n tyfu

Yn ogystal â chysylltiadau masnachol bydd Claire yn gweithio i ymgysylltu ymhellach â grwpiau cymunedol a grwpiau diddordeb arbennig ar yr ynys, ar hyd a lled Cymru a thu hwnt.


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233