Cynllun £400,000 Neges@Home, Menter Môn yw’r ateb i gadw gwariant ymwelwyr ar fwyd a diod yn lleol.
Gyda chynnydd sylweddol yn y niferoedd o bobl sydd wedi bod yn mynd ar wyliau lleol dros y cyfnod diweddar, mae cynllun newydd wedi ei lansio er mwyn annog ymwelwyr i wario mwy ar fwyd lleol yn ystod eu harhosiad.
Bydd Menter Môn yn gweithio gyda chynhyrchwyr a darparwyr lleol ar draws Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy i ddatblygu ystod o becynnau bwyd arloesol. Y bwriad ydi darparu’r cynhwysion perffaith ar gyfer penwythnos i ffwrdd neu achlysur arbennig. Byddent hefyd yn gweithio’n agos gyda’r diwydiant hunan-arlwyo er mwyn sicrhau bod yr opsiwn lleol yr un mor gyfleus â’r archfarchnad!
Yn ogystal â blas o’r bwyd, bydd y cynllun Neges hefyd yn cynnig blas o’r rhanbarth. Bydd yr ymdeimlad o le yn cael ei greu trwy ddefnyddio deunydd sy’n amlygu’r iaith Gymraeg, treftadaeth, tirwedd, hanes a mwy. Er mwyn rhannu syniadau, cyrraedd cynulleidfaoedd ehangach a rhannu arferion da bydd y prosiect yn gweithio ar y cyd gyda’r mentrau iaith lleol.
Dywedodd Gwion Llwyd sy’n rhedeg Dioni, asiantaeth llety hunan-arlwyo wedi ei leoli yng Ngogledd Cymru: “Bydd y cynllun Neges yn ychwanegu gwerth i’r diwydiant twristiaeth gan gysylltu cynhyrchwyr a darparwyr lleol gyda gwesteion sydd yn awyddus i flasu a mwynhau bwyd a diod sydd wedi ei gynhyrchu yn lleol. Mae hefyd yn gyfle perffaith i westeion sy’n ymweld â’r ardal i ddod yn fwy ymwybodol o’r ardal leol. Dyma gyfle i wir werthfawrogi Gogledd Cymru – ei harddwch, hanes a’i adnoddau naturiol.”.
Bydd y prosiect yn cefnogi’r economi leol gan sicrhau bod unrhyw elw o’r diwydiant twristiaeth yn cael ei gadw o fewn yr economi leol. Mae hefyd yn ffordd o sicrhau cadwyni cyflenwi byrrach, a’r rhain wedyn yn lleihau egni a phrisiau trafnidiaeth fydd wedyn yn lleihau allyriadau carbon.
Ychwanegodd Alison Lea-Wilson o Halen Môn: “Dyma gyfle gwych i fwyd a diod Cymreig ar gymaint o lefelau gwahanol: gwell ymwybyddiaeth i gynnyrch a’r cynhyrchwyr, mwy o werthiannau a’r rheini’n fwy cynaliadwy, potensial am farchnad hir dymor newydd a chyfle i ychwanegu at fwynhad unigolion sydd yn ymweld â’r ardal.”
Er mwyn helpu cyflawni’r prosiect, mae Neges@Home yn chwilio am 5 o gynhyrchwyr bwyd a diod i weithio ar y prosiect er mwyn peilota’r pecynnau bwyd a diod arloesol hyn. Gall hyn fod yn unigolion neu’n glwstwr o gynhyrchwyr yn gweithio gyda’i gilydd ar y cynnig.
Maent hefyd yn chwilio am amrywiaeth o berchnogion lletai hunan-arlwyo fyddai â diddordeb mewn darparu’r pecynnau hyn i’w cwsmeriaid. Bydd y darparwyr hyn yn dewis pa gyflenwyr i weithio gyda nhw ac mae ganddynt hawl i ddewis mwy nag un o’r cyflenwyr.
Wedi ei arwain gan Menter Môn a’i ariannu trwy’r cynllun Cydweithredu a Datblygu’r Gadwyn Gyflenwi (Llywodraeth yr UE / Cymru), bydd y cynllun yn rhedeg tan fis Mehefin 2023 gyda’r mwyafrif o weithgaredd yn digwydd yn ystod tymor twristiaeth 2022.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Rhys Gwilym ar 07376431442 neu drwy ei ebostio rhys@mentermon.com. Bydd angen i unrhyw ddatganiad o ddiddordeb fod wedi cael ei neud trwy lenwi’r ffurflen gais erbyn y 30ain o Dachwedd.