Mewn cam sylweddol i gefnogi twf diwydiant ynni morol y DU, mae cynllun llanw Morlais yng ngogledd Cymru wedi partneru gyda Stâd y Goron i ddarparu mynediad at ddata arolwg amgylcheddol wedi ei gasglu oddi ar arfordir Môn.
Yn deillio o gam cyntaf Prosiect Ymchwil Nodweddu Morol (MCRP) wedi’i arwain gan Morlais, bydd y data yn cael ei gadw ar y Gyfnewidfa Data Morol (MDE), sef casgliad unigryw o ddata o arolygon morol ac arfordirol. Wedi’i sefydlu yn 2013 gan Ystâd y Goron, mae’r Gyfnewidfa yn cefnogi datblygiad cynaliadwy o wely’r môr gan warchod amgylchedd morol y DU.
Mae MCRP yn cyfuno dros 40 terabyte o ddata o sawl ffynhonnell, ac mae ar gael yn gyhoeddus i ymchwilwyr, llunwyr polisi a datblygwyr technoleg gyda’r bwriad o hybu datblygiad y sector ynni llanw.
Mae’r allbynnau’n cynnwys amrywiaeth o becynnau gwaith, gan gynnwys monitro adar a mamaliaid morol. Trwy ddod â gwybodaeth at ei gilydd ar y Gyfnewidfa, y nod yw annog cydweithio ac arloesedd ar draws y sector, gan gefnogi ymdrechion byd-eang a’r DU i ddatblygu ynni morol cynaliadwy.
Mae Helen Roberts yn rheolwr prosiect MCRP, meddai: “Mae hwn yn ddatblygiad gwych i ynni llanw, ac rydyn ni’n falch iawn o chwarae rhan mor flaenllaw. Mae mynediad at ddata dibynadwy yn hanfodol i ddatblygwyr ac ymchwilwyr prosiect. Gyda’n mewnbwn i’r Gyfnewidfa, bydd data a gwybodaeth ar gael a fydd yn cynyddu dealltwriaeth o amgylcheddau morol ac yn gwella prosesau cynllunio a datblygu. Ein gobaith yw y bydd hyn yn helpu i dyfu’r sector wrth sicrhau bod cynaliadwyedd yn parhau i fod yn flaenoriaeth.”
Ychwanegodd Mike Dobson, Rheolwr Portffolio Ynni Newydd Stâd y Goron: “Mae gan y DU adnoddau ynni llif llanw sylweddol a gallai defnyddio natur ddibynadwy’r llanw helpu i gefnogi ein targedau sero net. Mae casglu a chyhoeddi data yn hanfodol er mwyn cynyddu dealltwriaeth o’r dechnoleg newydd yma ac unrhyw effaith y mae’n ei chael ar yr amgylchedd naturiol, nid yn unig ar gyfer potensial Morlais ond ar gyfer y sector yn ehangach.
“Mae data a thystiolaeth yn ein galluogi i ddeall yn well sut y gallwn ddod o hyd i’r cydbwysedd rhwng datblygu ynni adnewyddadwy yn y môr ac amddiffyn ein hamgylchedd naturiol, felly mae’n wych gweld cymaint erbyn hyn yn cael ei gadw ar y Gyfnewidfa Data Morol.”
Mae prosiect ynni llanw Morlais a MCRP yn cydweithio’n agos, ac yn rhan o bortffolio ynni Menter Môn. O’r cychwyn cyntaf, mae gwarchod bywyd gwyllt y môr a chynefinoedd lleol wedi bod yn flaenoriaeth i Morlais. Mae’r wybodaeth sy’n cael ei gasglu drwy MCRP yn chwarae rhan flaenllaw, i sicrhau bydd dyfeisiau ynni llanw yn cael eu gosod yn ddiogel. Gydag ymchwil yn parhau, mae disgwyl i dyrbinau cyntaf Morlais gynhyrchu trydan yn y môr o 2026.
Bydd gwybodaeth sy’n cael ei gasglu o’r MCRP yn ffurfio astudiaeth achos mewn adroddiad sydd i ddod gan Stad y Goron sy’n adolygu data monitro o gynlluniau llif llanw.
Mae’r Prosiect Ymchwil Nodweddu Morol yn cael ei ariannu gan Ystâd y Goron a’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear. Bydd gwybodaeth sydd yn cael ei gasglu gan y Prosiect Ymchwil Nodweddu Morol yn ffurfio astudiaeth achos mewn adroddiad sydd ar ddod gan Ystâd y Goron sy’n adolygu data monitro llif llanw morol cyfredol.