Mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi’i roi i’r hyn fydd y prosiect ynni llanw mwyaf yn Ewrop sydd â chaniatâd datblygu.
Yn eiddo i ac yn cael ei reoli gan fenter gymdeithasol, Menter Môn, cynllun llanw Morlais yw’r cyntaf o’i fath yn y byd, gyda chynlluniau i fod yn weithredol o 2026 ymlaen. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd cyfran ecwiti gwerth £8m yn y prosiect i sicrhau cynnydd.
Mae gan y safle ar Ynys Môn y potensial i gynhyrchu digon o drydan ar gyfer hyd at 180,000 o aelwydydd Cymreig. Bydd yn cynnig model busnes unigryw i ddatblygwyr dyfeisiadau ynni llanw trwy roi’r isadeiledd a chaniatâd cynllunio angenrheidiol yn ei le, fydd yn lleihau eu costau nhw wrth iddynt gynhyrchu trydan glân o’r safle ar raddfa fasnachol.
Bydd buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn helpu i ariannu elfen Cydnerth y prosiect, sy’n cryfhau cysylltiad Morlais â’r grid ym Mharc Cybi, ger tref Caergybi.
Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio:
“Rydyn ni eisiau gwneud Cymru’n ganolfan fyd-eang ar gyfer technolegau llanw sy’n dod i’r amlwg ac mae hwn yn gam cychwyn da mewn sawl ffordd.
“Bydd ein buddsoddiad yn cefnogi cynllun Morlais Menter Môn i gynyddu capasiti, a datblygu clwstwr diwydiannol ar gyfer ynni ac arloesedd llanw yn y Gogledd, gan ddarparu swyddi a thwf drwy ei dechnoleg arloesol ar yr un pryd. Bydd hyn hefyd yn sicrhau bod gwerth yn cael ei gadw’n lleol.
“Bydd hyn o fudd pellach i gyflenwyr ynni glân o bob maint ac yn gosod Cymru ar flaen y gad yn y trawsnewidiad ynni.”
Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn:
“Rydym yn croesawu cyhoeddiad y Gweinidog, sy’n cryfhau ein gallu ni i ddarparu ynni glân a swyddi lleol drwy brosiect Morlais. Mae’r cyllid hwn yn cefnogi ein gweledigaeth i sicrhau bod gogledd Cymru ar flaen y gad ac yn parhau i arloesi ym maes ynni llanw, gan greu cyfleoedd twf a chydweithio ar draws y rhanbarth.”
Ychwanegodd John Idris Jones, Cadeirydd Menter Môn Morlais Cyf:
“Mae’r arian yma yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ynni adnewyddadwy a’r rôl sylweddol y gall ei chwarae yn ein dyfodol. Drwy gefnogi prosiectau fel Morlais, rydym yn rhyddhau potensial ein adnoddau naturiol ond hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer economi gref, a chynaliadwy yng ngogledd Cymru.”