Mae menter gymdeithasol leol wedi ffurfio partneriaeth gyda Chyngor Sir Ynys Môn a hybiau cymunedol i ddarparu prydau bwyd maethlon am ddim i drigolion Ynys Môn.
Wrth i’r argyfwng costau byw effeithio ar deuluoedd, nod y prosiect ydy helpu i fynd i’r afael â thlodi bwyd drwy ddarparu prydau o safon mewn rhewgelloedd cymunedol ar draws yr Ynys.
Menter Môn a Chyngor Môn sydd yn cydlynu prosiect Neges, gan gydweithio i storio rhewgelloedd mewn deg o ganolfannau cymunedol ar draws yr ynys, gyda phrydau parod sydd wedi’u cynhyrchu’n lleol.
Gall unrhyw un gael mynediad at y prydau bwyd sydd yn y rhewgelloedd cymunedol, gyda’r nod o roi cymorth i gartrefi sy’n cael trafferth ymdopi â chostau byw cynyddol. Mae’r holl brydau yn cael eu paratoi ar yr ynys yng nghegin fasnachol Dylan’s, gyda phwyslais ar ddefnyddio cynnyrch a chynhwysion lleol (gan gynnwys cig oen o Ddolmeinir ger Llangefni a selsig gan Edwards o Gonwy).
Mae cydweithio gyda chynlluniau eraill megis y prosiectau Croeso Cynnes, banciau bwyd a chostau byw Cyngor Sir Ynys Môn yn rhan allweddol o’r prosiect.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn, y Cynghorydd Llinos Medi: “Rydym yn falch o allu parhau â’n perthynas waith cadarnhaol gyda Menter Môn, gan gyflwyno’r cynllun newydd hwn o dan faner Neges.”
Ychwanegodd: “Rydym yn deall bod caledi wedi taro nifer o’n trigolion dros y gaeaf o ganlyniad i’r argyfwng costau byw parhaus. Rydym yn ymwybodol bod y galw ar ein banciau bwyd wedi cyrraedd y lefelau uchaf erioed. Felly, rydym yn gobeithio y bydd y fenter gymorth newydd hon yn helpu i leddfu’r pwysau ariannol ar aelwydydd, yn ogystal â chyflwyno pobl i ryseitiau newydd a chynnyrch lleol.”
Cafodd Neges ei sefydlu gan bartneriaid i ddarparu prydau bwyd i deuluoedd a oedd yn wynebu caledi yn ogystal â gweithwyr gofal iechyd o’r rheng flaen yn ystod dyddiau cynnar y pandemig. Roedd Bwyty Dylan’s yn rhan o’r prosiect cychwynnol, ac mae’r holl brydau yn parhau i gael eu cynhyrchu yn eu cegin fasnachol yn Llangefni.
Eglurodd Dafydd Jones sydd yn Rheolwr Prosiectau Bwyd gyda Menter Môn: “Gyda fframwaith eisoes wedi eu gosod, a phartneriaid yn awyddus i weithredu a chynnig cymorth, roedd modd i ni roi cynllun newydd Neges ar waith yn gyflym. Rydym yn ddiolchgar i Gyngor Sir Ynys Môn am eu cefnogaeth ac i Dylan’s am eu cydweithrediad parhaus.”
“Rydym wedi gallu darparu achubiaeth i’r rhai sydd ein hangen ni fwyaf, trwy gydweithio wrth i brisiau bwyd barhau i godi. Does dim angen cael eich cyfeirio atom, felly rydym yn gobeithio y gall y rhai sydd ddim yn gymwys ar gyfer banciau bwyd neu sy’n poeni am y stigma o gael mynediad at wasanaethau tebyg i hyn elwa o’r cynllun.”
“Rydym hefyd yn gobeithio y bydd y cynllun hwn yn lleihau rhywfaint o’r galw ar ein banciau bwyd gweithgar sydd wedi bod yn mynd i’r afael â thlodi bwyd ers dros ddegawd ar Ynys Môn. Mae sicrhau bod y cynhwysion sydd yn y prydau yn lleol hefyd yn bwysig iawn i ni – nid yn unig mae’n cefnogi cynhyrchwyr ar yr ynys, ond mae hefyd yn lleihau milltiroedd bwyd ac yn cyflwyno cynnyrch lleol i farchnad newydd.”
Mae un o’r rhewgelloedd wedi ei leoli yng nghanolfan Beaumaris. Dywedodd Warren Jones, Rheolwr y ganolfan: “Fe wnaethom sylwi fod pobl wedi cael trafferth wrth dalu’r costau cynyddol dros y gaeaf hwn. Bydd y cynllun newydd hwn yn gwneud gwahaniaeth ac yn sicrhau bod llawer o’n teuluoedd mwyaf bregus yn gallu mwynhau pryd o fwyd maethlon heb orfod poeni am y gost.”
Mae’r prosiect yma wedi derbyn cyllid gan Gronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.