Mae Ffiws yn ymestyn ar draws Ynys Môn er mwyn bywiogi’r stryd fawr a rhoi cyfle i bobl greu, trwsio a thyfu.

Mae Menter Môn wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i sefydlu gofodau creu newydd ar Ynys Môn i gynnig cyfleon i bobl yr ardal.

Bellach mae gofodau Ffiws wedi cael eu sefydlu mewn tair tref ar yr Ynys, gan gynnwys, Amlwch a Caergybi, gyda’r trydydd lleoliad yn agor yn yr wythnosau nesaf yn Llangefni.

Ffiws Caergybi

Ffiws Amlwch

Ffiws Llangefni

 

 

 

 

 

 

 

Mannau gwaith cydweithredol ar gyfer gwneud, dysgu, archwilio a rhannu yw’r gofodau hyn sy’n defnyddio llu o offer technolegol. Mae’r math o dechnoleg sydd ar gael yn y gofodau yn cynnwys argraffwyr 3D, torwyr laser, sganwyr 3D, periannau gwnio, a chyfrifiaduron a fydd hefyd yn arddangos technoleg newydd ac yn anelu at ddatblygu cymuned o wneuthurwyr ar draws y sir.

Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn: “Mae Menter Môn yn falch iawn o fod wedi gallu cynnig cyfleoedd mor gyffrous i dair tref ar Ynys Môn i greu gofodau Ffiws. Rydym yn edrych ymlaen at y buddion y bydd gofodau o’r fath yn ei gynnig i unigolion, busnesau a mentrau cymdeithasol i ddysgu a deall technoleg newydd ond hefyd i gael effaith gadarnhaol ar newid hinsawdd drwy atgyweirio ac ailddefnyddio.”

Ffiws Caergybi yw’r lleoliad diweddaraf i agor ym Môn, drwy ein partneriaeth a Môn CF. Mae’r gofod wedi’i leoli o fewn siop The Computer Geeks ar Stryd Stanley yn ganol y Dref.

Dywedodd Alun Roberts, Rheolwr Datblygu Busnes Môn CF: “Mae Môn CF yn hynod o falch o gael y cyfle i fod yn rhan o brosiect arloesol Ffiws dan arweiniad Menter Môn. Gyda chymaint o bwyslais ar annog pob un ohonom i ailgylchu mwy a cheisio trin hen nwyddau – yn hytrach na’u taflu – mae hi’n gyfnod euraidd i gyflwyno adnoddau newydd i gymuned Caergybi a’r cylch.

Gyda’r gofod Ffiws newydd mae’n gyfle gwych i bobl leol wneud defnydd o’r offer mwyaf diweddar i allu trin nwyddau neu greu eitemau unigryw. Bydd yna gyfle hefyd i fusnesau newydd allu sefydlu a datblygu eu mentrau drwy greu cynnyrch newydd drwy fynediad i beiriannau a technoleg.”

Yn yr wythnosau nesaf, bydd trydydd gofod Ffiws yn agor ar y Stryd Fawr yn Llangefni drwy ein partneriaeth a Mencap Môn.

Dywedodd Martin Gallagher, Mencap Môn: “Mae Mencap Môn yn gyffrous iawn o gael Ffiws yn ein canolfan anabledd newydd. Trwy weithio gyda Menter Môn rydym mewn gwell sefyllfa i gynnig cyfleoedd nid yn unig i’n haelodau ond i ddarpar aelod newydd ag anableddau, drwy roi mynediad i offer a thechnoleg, ac i annog creadigrwydd a dysgu sgiliau newydd.”

Mae gofodau Ffiws wedi’u hariannu gan Menter Môn a Chyngor Sir Ynys Môn drwy’r Economi Gylchol Llywodraeth Cymru, a Chronfeydd Adfywio Gogledd Ynys Môn.

Am ragor o wybodaeth neu i fwcio sesiwn yn un o’r  lleoliadau cysylltwch â post@ffiws.cymru


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233