Mae cynllun Ffiws wedi cyrraedd Ynys Môn er mwyn bywiogi’r stryd fawr a rhoi cyfle i bobl greu, trwsio a thyfu.

Mae Menter Môn wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i sefydlu gofodau creu newydd ar Ynys Môn i gynnig cyfleon i bobl yr ardal.

Mannau gwaith cydweithredol ar gyfer gwneud, dysgu, archwilio a rhannu yw’r gofodau hyn sy’n defnyddio llu o offer technolegol. Mae’r math o dechnoleg sydd ar gael yn y gofod yn cynnwys argraffwyr 3D, torwyr laser a sganwyr 3D a fydd yn arddangos technoleg newydd ac yn anelu at ddatblygu cymuned o wneuthurwyr ar draws y sir.

Bydd yn cynnig cyfleoedd ar gyfer datblygu busnes newydd, gan weithio gyda mentrau cymdeithasol i greu partneriaethau gwirfoddoli a sgiliau o amgylch atgyweirio ac ailddefnyddio a chael cymunedau i fod yn frwdfrydig ynghylch creadigrwydd a gwneud.

Mae FFIWS Amlwch yn un o 10 lleoliad sy’n cael ei ddatblygu ar y stryd fawr ar hyd a lled Ynys Môn a Gwynedd er mwyn helpu adfywio ein trefi a dyma’r cyntaf o dri i gael eu sefydlu ar yr ynys. Mae’r lleoliad yn Amlwch yn cael ei redeg gan Menter Amlwch. Bydd gofod Caergybi yn agor yn fuan iawn y mis hwn a gofod Llangefni yn agor yn fuan iawn ar ôl hynny dros yr wythnosau nesaf.

Dywedodd Dafydd Gruffydd, Rheolwr Gyfarwyddwr Menter Môn “Mae Menter Môn yn falch iawn o fod wedi gallu cynnig cyfle mor gyffrous i dref Amlwch drwy ofod creu Ffiws. Rydym yn edrych ymlaen at y buddion y bydd gofod o’r fath yn ei gynnig i unigolion, busnesau a mentrau cymdeithasol i ddysgu a deall technoleg newydd ond hefyd i gael effaith gadarnhaol ar newid hinsawdd drwy atgyweirio ac ailddefnyddio.”

Ychwanegodd – “Mae sefydlu Ffiws ar y stryd fawr yn rhan bwysig iawn o’r prosiect yma. Mae’n sicrhau adfywiad i’n strydoedd mawr sydd eisoes wedi wynebu cyfnod heriol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a drwy sefydlu Ffiws yn lleoliad yr hen fanc NatWest, mae’n sicrhau fod mwy o gyfleoedd i’n cymunedau a thrigolion.”

Yn ogystal â’r lleoliadau ym Môn, mae gofod Ffiws Porthmadog hefyd wedi agor ar y stryd fawr yno.

Bydd y gofodau a’r sesiynau hefyd yn cynnwys profiad Ffermio Fertigol a chyflwyniad sylfaenol i ba offer sydd ar gael a sut i’w defnyddio. Bydd y sesiynau’n cael eu rhedeg gan dechnegwyr cwbl gymwys ac mae’r sesiynau eisoes wedi dechrau yn Amlwch.

Barry Allsopp yw rheolwr Ffiws Amlwch, dywedodd – Rydym ni ym Menter Amlwch yn gyffrous i groesawu prosiect Ffiws i’n cymuned. Mae cael cefnogaeth Menter Môn i greu’r prosiect hwn yn gyffrous ynddo’i hun gan ein bod yn gweld cydweithio cymunedol yn hanfodol i gefnogi prosiectau o’r fath.

ychwanegodd – “Bydd rhoi mynediad i gymuned Amlwch a’r cyffiniau i ofod gwneud Ffiws o ddefnydd mawr iddynt gan y bydd yn helpu i ddatblygu sgiliau sydd ganddynt eisoes yn ogystal â dysgu sgiliau newydd a ffyrdd o atgyweirio yn hytrach na phrynu o’r newydd. Edrychwn ymlaen at weithio’n agos gyda gofodau eraill Ffiws ar yr ynys a chynorthwyo’r gymuned i ddysgu sgiliau newydd a allai drosglwyddo i syniadau busnes.”

Mae gofodau Ffiws wedi’u hariannu gan Menter Môn a Chyngor Sir Ynys Môn drwy’r Economi Gylchol, a Chronfeydd Adfywio Gogledd Ynys Môn.

Am ragor o wybodaeth neu i fwcio sesiwn yn y lleoliad cysylltwch â post@ffiws.cymru


Dysgwch fwy am yr hyn rydyn ni’n ei wneud...



01248 725 700

Menter Môn Cyf, Neuadd Y Dref Llangefni, Sgwar Bulkeley, Llangefni, Ynys Môn LL77 7LR

Menter Môn Cyf, 144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd LL49 9NU

Rhif Cwmni: 3160233